Mae ffilmiau o Gymru ac yn yr iaith Gymraeg ar gael i’w gwylio am y tro cyntaf ar Amazon Prime Video.
Mae’r ddwy ffilm antur, 47 Copa ac Ar Gefn y Ddraig, wedi eu cynhyrchu gan Cwmni Da o Gaernarfon.
Dyma’r tro cyntaf i gynnwys iaith Gymraeg ymddangos ar y platfform, lle fyddant ar gael i aelodau a thanysgrifwyr gwasanaeth Prime Video.
Mae 47 Copa yn ffilm S4C Original, strand a gafodd ei lansio yn 2019 er mwyn arddangos cynnwys gwreiddiol o Gymru i gynulleidfaoedd rhyngwladol ac ymestyn cyrhaeddiad yr iaith Gymraeg ar draws y byd.
Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: “Ry’n ni’n hynod o falch i weld ein brand S4C Original yn ymestyn ei gyrhaeddiad wrth i’r byd fwynhau cynnwys unigryw o Gymru ym mhob genre.
“Mae’r ffordd rydym yn gwylio rhaglenni yn newid ac mae’n rhaid i ni fanteisio ar bob cyfle i arddangos ein cynnwys Cymraeg safonol i weddill y byd.”
Mae’r ffilmiau yn rhan o becyn o ddwy ffilm ddogfen antur sydd wedi eu cyfarwyddo gan Huw Erddyn, o Gaernarfon.
Mae 47 Copa ac Ar Gefn y Ddraig yn rhaglenni sydd yn dilyn y rhedwr marathon wltra ac anturiaethwr Huw Brassington, wrth iddo fentro mewn dau o heriau corfforol anoddaf sydd gan Gymru i’w gynnig.
Yn 47 Copa, mae Huw yn ceisio gorffen y Rownd Paddy Buckley, her ble mae rhedwyr yn ceisio dringo i gopa 47 mynydd yn Eryri dros gyfnod o 24 awr.
Mae’r ffilm wedi ennill y wobr am Ffilm Antur Orau yng Ngŵyl Ffilm Mynydd Llundain 2020, yn ogystal â llwyddo i fod yn ddewis swyddogol yng Ngŵyl Mynydd Kendal fis yma.
Mae Ar Gefn y Ddraig yn dilyn Huw wrth iddo redeg yn y ras mynydd pum diwrnod anoddaf yn y byd, Ras Gefn y Ddraig, sydd yn ymlwybro 315km o ogledd Cymru i’r de.
Fe enillodd y ffilm wobr Dewis y Bobl yng Ngŵyl Mynydd Kendal 2018 yn ogystal â’r wobr arian yng Ngŵyl Ffilmiau Antur Sheffield 2019.
Mae Cwmni Da yn gwmni cynhyrchu sydd yn nodedig am eu cynnwys antur.
Yn ogystal â chipio sawl gwobr gyda’u ffilmiau antur, y cwmni sydd hefyd yn cynhyrchu’r darllediadau blynyddol o Ras yr Wyddfa a Marathon Eryri a’r fformat antur Ar y Dibyn gafodd ei ddatblygu ar gyfer S4C a Sony Pictures International.
Meddai Huw Erddyn o Cwmni Da: “Roedd y ffilmiau yma yn hynod heriol i’w saethu ar adegau ond yn bleser pur i weithio arnyn nhw.
“Mae Huw a finnau yn nabod ein gilydd ers oeddem ni’n dau yn ddeuddeg oed ac mae wedi bod yn braf iawn i gwrdd eto blynyddoedd wedyn a gweithio hefo’n gilydd.
“Rydyn ni’n rhannu’r un diddordebau ac yn gweld pethau yn yr un ffordd, felly yn sicr dani’n gweithio’n dda hefo’n gilydd.
“Mae Eryri yn leoliad perffaith i anturiaethwyr ym Mhrydain a thu hwnt, felly mae cael y cyfle i greu ffilmiau iaith Gymraeg efo’r tirwedd yna fel cefndir, wedi bod yn wych.
“Mae’n ffantastig i weld cynnwys iaith Gymraeg yn cael ei gynnwys ar blatfform fel Amazon Prime.”
Bydd 47 Copa ac Ar Gefn y Ddraig ar gael i’w wylio ar Amazon Prime Video ar Ddydd Iau 12 Tacwhedd. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.amazon.co.uk/primevideo.