Mae’r ddrama newydd i blant am frawd a chwaer sy’n meddu ar bwerau hudol, wedi cydio yn nychymyg plant Cymru. Mae Deian a Loli, sy’n cael ei gynhyrchu gan Cwmni Da yng Nghaernarfon i S4C, wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda chyfres newydd ar fin cyrraedd y sgrin. Mae’r gyfres hefyd wedi ennill gwobr Bafta Cymru yng nghategori ‘Rhaglen plant Gorau’.
Efeilliaid direidus ydi Deian a Loli, sy’n medru rhewi eu rhieni i’r unfan, sy’n eu gadael nhw’n rhydd i fynd ar anturiaethau a gwneud beth bynnag y mynnent.
Roedd dangosiadau arbennig o ddwy bennod o’r gyfres newydd yn sinema Pontio, Bangor ar 19eg o Hydref. Gwerthwyd pob un o’r 600 o seddi o fewn ychydig oriau a bu’n rhaid trefnu dau ddangosiad ychwanegol. Mae hyn yn dilyn premiere o bennod arall, yn Eisteddfod Genedlaethol Môn yn gynharach eleni, pan bu’n rhaid newid lleoliad y dangosiad i leoliad mwy. Hefyd, bu’n rhaid trefnu dangosiad ychwanegol.
“Cyn gynted ag y cyhoeddwyd y dangosiad, aeth y gwifrau ffôn yn wallgo’,” meddai Cyfarwyddwr Artistig Pontio, Elen ap Robert. “O fewn munudau roedd ‘na 100 tocyn wedi diflannu, ac erbyn diwedd y prynhawn roedd pob un wedi mynd.”
Mae’r galw am nwyddau Deian a Loli wedi bod yn uchel hefyd, gyda chrysau-t, sydd ar gael o adrahome.com ac o siop Adra yng Nghynllifon, yn gwerthu yn eu cannoedd. Mae DVD y gyfres gyntaf yn gwerthu’n arbennig o dda mewn siopau llyfrau lleol hefyd. Roedd sawl plentyn wedi gwisgo eu crys-t i’r Premiere.
Mae cynhyrchydd y gyfres, Angharad Elen, wrth ei bodd gyda’r llwyddiant. “Mae’n beth braf iawn i wybod fod cynifer o blant Cymru yn mwynhau’r sioe – a dwi’n hynod falch ei bod wedi llwyddo i gydio yn eu dychymyg. Mae hynny’n gwneud y cwbl yn werth chweil.”
Bydd y gyfres newydd yn ailddechrau ar wasanaeth Cyw ar S4C ar 25 Hydref a bydd pennod arbennig hanner awr o hyd yn cael ei darlledu ar Nos Galan, ‘Deian a Loli a’r Peiriant Amser’.