Cystadleuaeth Deian a Loli

Cer ati i greu cymeriad newydd i Deian a Loli! Anfona lun o’r cymeriad gyda brawddeg neu ddwy yn sôn amdano neu amdani.

Bydd yr enillydd yn cael y cyfle i ymweld â set Deian a Loli – gan gwrdd y Deian a Loli go iawn, a bydd y cymeriad yn ymddangos mewn pennod o Deian a Loli. Am wobr!

Dyma Gwern, enillydd y gystadleuaeth yn 2016, gyda’r llun a wnaeth o’i gymeriad – Llŷr y Lleidr Llyfrau. A dyma lun ohono ar set, yn gweld ei gymeriad yn dod yn fyw!

 Anfona dy syniad i deianaloli@cwmnida.tv erbyn yr 28ain o Fedi, 2018.

Cliciwch yma i weld y rheolau.