Mae drysau’r Academi Felys yn ail-agor eleni! Mae Richard Holt – cogydd patisserie a cheidwad Melin Llynon – yn chwilio am lond llaw o bobyddion newydd i ymuno ag ef yn y gyfres deledu i S4C. Bydd y profiad unigryw hwn yn gweld nifer dethol o bobyddion addawol yn mynychu Academi Richard, lle bydd dewin y cacennau yn gosod llu o heriau pobi arallfydol i brofi’r cystadleuwyr i’r eitha, ac yn rhannu rhai o’r cyfrinachau gorau a ddysgodd wrth weithio mewn bwytai seren Michelin.
Meddai Richard: ‘Ges i GYMAINT o hwyl yn ffilmio’r gyfres gyntaf. Oe’n i mor impressed efo safon cacennau a datblygiad y cystadleuwyr, ac yn rili hapus i weld faint ‘natho nhw fwynhau eu profiad yn yr Academi. Rwan, ‘dwi’n edrych am griw newydd o bobyddion talentog i ymuno efo fi yn y gegin. Os ‘da chi’n caru cacennau, yn hoffi heriau hwyl, isio dangos eich doniau ac yn awyddus i ddysgu sgiliau arbennig newydd, cerwch amdani!’
Os hoffech chi neu rywun rydych chi’n nabod roi cynnig ar y cyfle euraidd hwn, dilynwch y ddolen a gwnewch gais erbyn Awst 14!
Eleni, am y tro cyntaf, bydd enillydd y gyfres yn derbyn gwobr anhygoel: gwyliau i ddau berson yng nghartref patisserie y byd, Paris! Yno, byddan nhw’n aros mewn gwesty bŵtic am ddwy noson a chael profiad bwyd arbennig.
Awyddus i ddangos eich talent pobi?
Gwnewch gais am y cyfle euraidd hwn nawr!
Gofynion: Er mwyn cael eu hystyried ar gyfer y sioe, rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed, gallu siarad Cymraeg, ac yn angerddol am bobi! Os hoffech chi neu rywun rydych chi’n nabod wneud cais, anfonwch eich enw llawn, oedran, lleoliad, bio byr (dim mwy na 250 gair), llun proffil a lluniau o’ch cacennau gorau yma:Prif ddyddiadau a lleoliadau: Cyflwynwch eich manylion cyn gynted â phosibl – y dyddiad cau fydd dydd Sul 14 Awst. Bydd ffilmio’n digwydd yn yr hydref yn bennaf yn Ysgol Goginio Bodnant (Dyffryn Conwy) a Melin Llynon (Llanddeusant, Ynys Môn).
Dilynwch @academifelys ar Instagram, Facebook a TikTok i ddal fyny ar y cacennau, cystadleuwyr a holl hwyl cyfres 1.