Mae Cwmni Da yn chwilio am ddau blentyn rhwng 9-12 oed i gymryd rhan Deian a Loli yn y gyfres newydd, fydd yn dechrau ffilmio ym mis Mehefin.
Does dim rhaid cael unrhyw brofiad blaenorol o actio na pherfformio – dim ond brwdfrydedd a digonedd o egni!
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer rhan Deian neu Loli, llenwch y ffurflen hon ac uwchlwytho fideo byr o’ch plentyn (dim mwy na 3 munud) yn dweud stori ddiddorol amdano/amdani ei hun.
Dyddiad cau – 12pm, dydd Llun, 20 Ionawr 2020.
Byddwn yn gwahodd creu rhestr fer o’r ymgeision ac yn eu gwahodd i weithdy rhywbryd ym mis Chwefror a Mawrth.
Bydd y ffilmio yn digwydd rhwng Mehefin-Hydref 2020 a rhwng Mehefin a Hydref 2021
Rhaid i’r plentyn fod yn 9 mlwydd oed erbyn 1/06/2020
Rhaid i’r plentyn fod yn rhugl yn y Gymraeg
Rhaid i’r fideos fod wedi eu ffilmio mewn 1080p a 30FPS (sef y gosodiad cyffredinol ar gyfer ffonau clyfar).
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â deianaloli@cwmnida.tv