Rhaglenni Da. Pobl Da. Cwmni Da.
Mae Cwmni Da yn gwmni cynhyrchu cwbl annibynnol.
‘Rydym yn creu cynnwys cyffrous, uchelgeisiol a difyr ers 20 mlynedd.
Ers iddo gael ei sefydlu yn 1997, mae Cwmni Da wedi datblygu yn un o brif gwmnïau cynhyrchu Cymru. Mae cynnyrch cenedlaethol a rhyngwladol y cwmni yn cynnwys rhaglenni ffeithiol, plant, comedi, adloniant, drama, digwyddiadau a chwaraeon. Yn gynhyrchydd o bwys i S4C, mae Cwmni Da hefyd yn creu cynnwys ar gyfer y BBC, C4 ac yn llwyddiannus yn y farchnad gyd-gynhyrchu ryngwladol.
Mae Cwmni Da wedi ennill sawl gwobr Bafta Cymru, a gwobrau Gŵyl Cyfryngau Celtaidd, sawl gwobr ‘One-World Media a gwobr ‘Jules Verne Adventure’. Mae’r cwmni hefyd wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobrau Bafta Kids UK ac RTS (Royal Television Society).
Yn ogystal â’n rhaglenni a chynnwys arlein, mae gennym brofiad eang o gynhyrchu fideos corfforaethol, fideos addysg a fideos hyrwyddo.
Wedi ei sefydlu yng Nghaernarfon, mae’r cwmni yn gweithredu’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cwmni sydd ym mherchnogaeth ei weithlu yw Cwmni Da. Mae hyn yn gyson ag ethos y cwmni o gyd-ysgwyddo cyfrifoldeb a chyfuno cryfderau er lles y gweithlu, yr economi leol a’r gymuned ehangach.
Caiff cyfranddaliadau’r cwmni eu dal ar ran y gweithlu mewn Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Cyflogai sy’n cael ei reoli gan Ymddiriedolwyr. Rôl yr Ymddiriedolwyr – sy’n cynnwys aelod o staff Cwmni Da – yw cadw golwg ar waith y cwmni a’r Bwrdd Cyfarwyddwyr gan warchod buddiannau’r gweithlu. Mae’r Ymddiriedolaeth yn sicrhau fod gan y gweithlu lais, ynghyd â dweud yn natblygiad y cwmni.
Mae sefydlu Ymddiriedolaeth Gweithwyr yn ddatblygiad naturiol i Cwmni Da, gan ein bod yn gwbl grediniol fod y gweithlu yn rhan allweddol o’r busnes. Mae pawb yn teimlo perchnogaeth dros y cwmni, sy’n golygu ein bod yn cynnig gwerth ychwanegol i’n cwsmeriaid.
Mae bod yn gwmni sydd ym mherchnogaeth ei weithlu yn sicrhau bod y cwmni yn aros yn annibynnol ac yn nwylo’r rhai sydd yn cyfrannu’n uniongyrchol at ei lwyddiant. Mae’n bosib i’r cyflogai ymelwa’n ariannol pan fydd elw i’w rannu.
Mae’r model busnes hwn yn torri tir newydd yn y diwydiant cyfryngol a rydym yn hyderus y bydd y llwybr arloesol yma’n gweld Cwmni Da yn mynd o nerth i nerth.
Cyfarwyddwyr

Bethan Griffiths

Llion Iwan

Sioned Wiliam

Phil Williams
Bethan Griffiths
Cychwynodd Bethan ei gyrfa yn Adran y Wasg S4C cyn symud at Teledwyr Annibynnol Cymru. Yn 2000 dechreuodd weithio yn y byd cynhyrchu annibynnol gan arbennigo mewn cyfrifo cynhyrchu. Ymunodd â Cwmni Da yn 2007 a dod yn Rheolwr Cyfrifon Cynhyrchu gyda chyfrifoldeb am holl faterion ariannol cynyrchiadau’r cwmni. Yn 2017 ymunodd Bethan â Bwrdd Cwmni Da fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau ac mae’n arwain y Tim Rheoli gyda chyfrifoldeb am weinyddiaeth a chyllid cwmniol.
Llion Iwan
Ymunodd Llion gyda Cwmni da yn Ebrill 2019 fel cyfarwyddwr cynnwys, a dod yn Rheolwr Gyfarwyddwr yn Ionawr 2021. Ganwyd ef yng Nghaerdydd a’i fagu yn y Waunfawr. Bu’n newyddiadurwr print cyn treulio deng mlynedd gyda’r BBC, yn gynhyrchydd a cyfarwyddwr dogfennau ar gyfer BBC1, 2, 4 a BBC Cymru. Enillodd ei ffilmiau wobrau yn y Ffrainc, Swisdir , Canada ac RTS ym Mhrydain. Bu’n cyfarwyddo llaw rydd a darlithio cyn ymuno gyda S4C fel Comisiynydd Cynnwys Ffeithiol a Chwaraeon. Ymysg ei gomisiynau oedd Gerallt, Patagonia, Fy Chwaer a Fi, American Interior, Dagrau o Waed a negydodd hawliau darlledu Tour de France yn y Gymraeg. Penodwyd ef yn Bennaeth Dosbarthu Cynnwys yn 2016 ac roedd yn aelod o dim Rheoli S4C ac yr Awdurdod. Mae’n banelydd rheolaidd mewn gwyliau ffilm megis Tokyo Docs, Incheon yn Corea a GMZ yn China.
Y ffilm ddogfen oedd maes ei PhD, cyhoeddodd bump nofel a dwy gyfrol ffeithiol yn cynnwys hanes Geraint Thomas yn ennill y Tour de France.
Mae amrywiaeth eang ein cynhyrchiadau, yn rhan hanfodol o weledigaeth Cwmni Da ers y cychwyn cynta.
Wedi’i leoli yng nghanol tref Caernarfon, mae Cwmni Da yn falch o’i wreiddiau yng Ngogledd Cymru a’i gyfraniad i ddiwylliant ac economi’r ardal.