Er gwaethaf cyfyngiadau y cyfnod clo, mae pump arweinydd y gyfres deledu FFIT Cymru wedi llwyddo i wneud daioni sylweddol i’w hiechyd a cholli bron i 10 stôn dros gyfnod o saith wythnos.

Ar ôl cael eu dewis i gymryd rhan yn y rhaglen boblogaidd gyda’r nod o geisio trawsnewid eu iechyd, mae’r pump arweinydd, Iestyn, Elen, Kevin, Ruth a Rhiannon wedi bod yn ffilmio eu hunain drwy gydol y gyfres tra’n hunan ynysu adref, wrth ddilyn cynlluniau bwyd ac ymarfer corff arbenigol.

Wrth bwyso eu hunain am y tro olaf ym mhennod olaf y gyfres, sydd i’w weld am 9.00 ar nos Fawrth 19 Mai, mae’r arweinwyr wedi llwyddo i golli cyfanswm o naw stôn a 11 pwys rhyngddynt. Mae canlyniadau profion meddygol a gymerwyd ar ddechrau a diwedd y gyfres hefyd wedi datgelu sawl newid cadarnhaol yn iechyd y pump yn ogystal.

Mae’r athro ysgol gynradd, Iestyn Owen Hopkins, 28, sydd yn byw yn Llanrhymni yng Nghaerdydd ond yn wreiddiol o Gaernarfon, wedi llwyddo i golli tair stôn a saith pwys mewn saith wythnos. Mae profion wedi dangos bod ei oedran ffitrwydd hefyd wedi gostwng bron ugain mlynedd dros y cyfnod, o 59 i 40. Dywedodd Iestyn: “Mae’r siwrnai yma di bod yn gwbl anhygoel a dw i wedi dysgu bod colli pwysau yn fwy na be sydd ar y glorian a’r ffordd ti’n edrych – mae o am sut wyt ti’n teimlo tu fewn hefyd. Diolch FFIT Cymru.”

Mae Rhiannon Harrison, 29, o Aberystwyth, sy’n fam i ddau o blant ac yn gweithio fel athrawes, wedi colli un stôn a 10 pwys ac mae ei lefel pwysau gwaed wedi gostwng lawr i’r lefel arferol, ar ôl gorfod cymryd tabledi i reoli’r lefelau ers 10 mlynedd. Dywedodd Rhiannon: “Dw i’n teimlo’n hollol wahanol i’r hen Rhiannon ar ddechrau y cynllun. Mae’r sbarc yn ôl a gallaf i ddim disgwyl am y dyfodol cyffrous sydd o fy mlaen.”

Mae’r gyfres wedi cael effaith sylweddol ar iechyd Kevin Jones, 53, o Rhuthun, tad i dri a llys dad i bump, sydd yn gweithio fel radiograffydd. Ar ôl byw gyda clefyd siwgr math 2, mae ei lefelau siwgr yn y gwaed wedi gostwng gymaint iddo beidio angen cymryd meddyginiaeth i’w reoli bellach. Yn ogystal, mae Kevin wedi colli un stôn a 13 pwys, ac mae’r lefel risg o ddioddef clefyd y galon wedi lleihau, yn sgil cwymp sylweddol yn ei lefelau pwysau gwaed a braster visceral.  Meddai Kevin: “Lle ‘dw i’n dechrau? Roedd cael gwybod nad oeddwn i angen meddyginiaeth ddim mwy ar gyfer y clefyd siwgr yn gwneud yr holl waith caled werth o.”

Mae Ruth, 45, o Lanllwni, sydd yn fam i dair ac sy’n gweithio i Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion wedi colli un stôn ac mae oedran ei hysgyfaint wedi gostwng i 42 oed, sef tair mlynedd yn îs na’i gwir hoedran. Dywedodd Ruth: “Dw i’n hoffi be dw i’n weld yn y drych erbyn hyn ac ar ôl lockdown, fi’n barod i fynd mas ar ddêt.”

Mae Elen, y deintydd o Ruthun sy’n 23 oed, wedi llwyddo i golli un stôn a naw pwys dros saith wythnos. Dros yr un cyfnod, mae’r canran o braster yn ei chorff wedi gostwng bron i 10 y cant ac mae ei hoedran ffitrwydd wedi disgyn 15 mlynedd, o 40 i 25. Meddai Elen: “Mae’r holl brofiad yma wedi bod yn anghredadwy a gallai ddim diolch i’r arbenigwyr ddigon am fy newis i.”

Mae’r tri arbenigwr sydd wedi tywys yr arweinwyr drwy’r trawsnewidiad yn falch iawn o ymdrechion y pump.

Dywedodd y hyfforddwr personol, Rae Carpenter: “Er gwaethaf cyfyngiadau lockdown, roedd gennym ni’n tri ffydd yn y pump a ffydd yn y cynllun bwyd a ffitrwydd. Mae hyn yn dangos mai drwy fwyta’n iach, cadw’n heini a gwneud  y pethau bychain, bod modd trawsnewid eich bywyd.”

Dywedodd y seicolegydd, Dr Ioan Rees: “Bob wythnos mae nhw wedi profi i ni  – hyd yn oed yn ystod mewn cyfnod o gyfyngiadau – eu bod nhw yn gallu gwneud o. Maen nhw wedi blodeuo efo cryfder meddyliol, hyder a hunan-barch.”

Dywedodd y dietegydd, Sioned Quirke: “Er gwaetha’r hyn sydd wedi bod yn mynd ymlaen yng Nghymru efo Covid-19 dros yr wythnosau diwethaf, ma hi’n glod i’n pump arweinydd bod nhw wedi  gallu rhoi cant y cant i’r cynllun a thrawsnewid bob wythnos, yn ystod cyfnod mor heriol i bawb.”

Er mwyn gweld cynlluniau bwyd ac ymarfer corf yr arweinwyr, gwrando i Podrediad Soffa i 5k sydd wedi ei leisio gan Rae Carpenter, neu gwylio sesiynau fideo Dr Ioan Rees ar iechyd meddwl, ewch i wefan FFIT Cymru, www.s4c.cymru/ffitcymru, neu dilynwch @ffitcymru ar Facebook, Twitter, Instagram a Youtube.