Cyrhaeddodd y gyfres boblogaidd i blant, Deian a Loli, yr uchelfannau newydd neithiwr gan ennill gwobr Canmoliaeth Uchel yn y Gwobrau Broadcast yn Llundain. Cafodd y gyfres er gwaethaf ei chyllideb isel ei henwebu, ymysg enwau mawr y byd rhaglenni plant gan gynnwys Disney Junior, CBeebies a Nick Jr, am y Rhaglen Orau i Blant Meithrin yn y gwobrau Broadcast 2019.
Bu’r beirniaid yn canu clod y gyfres am fod mor uchelgeisiol, gan ei alw’n “syniad gwallgof ac athrylithgar!” Roeddent yn edmygu neges y gyfres sy’n annog plant i fentro, goresgyn eu hofnau, a defnyddio’u dychymyg i ddatrys problemau.
Dyma’r wobr ddiweddaraf i’r cynhyrchiad sydd wedi derbyn llawer o gydnabyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol.

Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd S4C, Angharad Elen, cynhyrchydd y gyfres a Martin Thomas, cyfarwyddwr y gyfres
Bellach yn ei thrydedd gyfres, enillodd Deian a Loli BAFTA Cymru yn 2017 a chafodd enwebiadau ar gyfer BAFTA Cymru a’r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd yn 2018.
Dywedodd Angharad Elen, cynhyrchydd y gyfres ei bod wedi cael ei hysbrydoli gan ei phlant ei hun wrth greu’r gyfres hon, “Mae tuedd y dyddiau yma i lapio’n plant mewn gwlân cotwm, a dweud wrthyn nhw i beidio â dringo coed, felly mae’r rhaglen yn seiliedig ar fy mhlentyndod fy hun mewn ffordd. Mae ymateb y plant i gyd wedi bod yn wych, ac mae wedi profi i fod yn llwyddiant i S4C. Mae’n werth chweil gweld ymateb y gwylwyr i’r rhaglen, ond yn hynod o ffantastig i dderbyn y math yma o gydnabyddiaeth gan y diwydiant hefyd.”
“Rydym yn hynod falch bod Deian a Loli wedi derbyn y fath gydnabyddiaeth yn y Gwobrau Broadcast yn Llundain. Mae ein gwylwyr ieuengaf wrth eu boddau gyda’r cymeriadau ac mae wedi profi i fod yn un o’r rhaglenni mwyaf poblogaidd i blant. Llongyfarchiadau mawr i griw Cwmni Da,” meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C.
Mae Deian a Loli ar y teledu bob bore Mercher ac ar gael i’w gwylio ar S4C Clic a BBC iPlayer. Mae fersiwn rhyngwladol o’r fformat, sy’n cael ei adnabod fel Dylan and Loli, yn cael ei ddosbarthu gan Videoplugger.