Mae ymgyrch ar droed i chwilio am gantorion dawnus o Gymru sy’n breuddwydio am berfformio gyda’u harwyr cerddorol.
Mae’r tenor enwog Rhys Meirion, a gafodd ei fagu ym Mhorthmadog ac sydd bellach yn byw ym Mhwll-glas, ger Rhuthun, yn chwilio am freuddwydwyr sy’n caru cerddoriaeth i gymryd rhan mewn deuawdau disglair ar ei sioe deledu newydd S4C, Canu Gyda Fy Arwr.
Dylai unrhyw un sydd am roi cynnig arni, neu enwebu ffrind neu aelod o’r teulu gysylltu â Cwmni Da, y cwmni teledu o Gaernarfon, erbyn Awst 2.
Maent yn chwilio am bobl, rhwng 10 a 110 oed, i gymryd rhan yn y gyfres i godi calon sy’n dechrau ffilmio yn yr Hydref.
Mae Rhys hefyd yn cyflwyno rhaglen lwyddiannus Corau Rhys Meirion, gan hyfforddi grwpiau cymunedol ledled Cymru i ffurfio corau cyfareddol.
Dywedodd fod y gyfres arloesol Canu Gyda Fy Arwr yn gyfle gwych i ddoniau lleisiol sydd heb eu darganfod ganu gyda sêr pop Cymru tebyg i Elin Fflur neu Bryn Fôn.
Bydd y rhai sydd â’r rhesymau mwyaf diddorol a theimladwy dros ddymuno rhannu’r llwyfan â’u harwr cerddorol yn cael eu dewis i fynd ymlaen i’r cam ffilmio lle byddant yn cael eu mentora gan Rhys a thîm Cwmni Da ac yncael cyfarfod a chanu gyda’u harwr cerddorol.
Dywedodd y cynhyrchydd Siwan Haf: “Mae angen ceisiadau arnom gan ddoniau canu cudd o bob rhan o Gymru. “Yr hyn sy’n wahanol am y gyfres hon yw nad ydym yn mynd ati i ddarganfod pobl sydd eisiau bod yn sêr. Nid yw’n canolbwyntio ar ddod yn enwog ond yn hytrach mae’n rhoi’r sylw i’r straeon dynol y tu ôl i gyfoeth doniau cerddorol Cymru.
“O’r holl gelfyddydau, cerddoriaeth yw’r un sy’n tynnu tannau’r galon a’r hyn rydyn ni’n chwilio amdano yw pobl hynny sydd â rheswm teimladwy dros fod eisiau canu ochr yn ochr â’u harwr.
“Wrth greu’r gyfres ein breuddwyd ni yw gwireddu eu breuddwydion a’u dyheadau nhw – nid o reidrwydd i hyrwyddo eu gyrfaoedd cerddorol ond i gael y teimlad o gyflawniad a boddhad emosiynol y byddai canu gyda’u hoff artist yn ei roi iddyn nhw.
“Er enghraifft, efallai bod eu diweddar fam neu dad yn mwynhau gwrando ar yr arwr, a’r caneuon yn cael eu chwarae yn y cefndir wrth iddyn nhw dyfu i fyny. Efallai bod cerddoriaeth yr arwr wedi helpu’r unigolyn arbennig trwy amseroedd caled, neu efallai mai un o ganeuon yr arwr oedd eu dewis ar gyfer y ddawns gyntaf mewn priodas a bod un partner bellach yn breuddwydio am ganu’r gân gofiadwy honno i’w hanner arall ochr yn ochr â’r perfformiwr gwreiddiol.