Mae Cwmni Da yn dathlu’r wythnos yma gyda’r newyddion bod tri o’n cynyrchiadau wedi ennill gwobrau yn yr Ŵyl Geltaidd. Fe lwyddodd Nadolig Deian a Loli yn y categori Rhaglen Blant, Côr Digidol Rhys Meirion yn y categori Adloniant a rhaglen antur Huw Jack Brassington, 47 Copa yn y categori Dogfen Chwaraeon.
Yn dilyn saith enwebiad a thair gwobr yn yr Ŵyl Geltaidd, mae Cwmni Da hefyd wedi derbyn dau enwebiad yng Nghystadleuaeth BAFTA Cymru.
Mae llwyddiant y rhaglen blant, Deian a Loli yn parhau gydag enwebiad BATA Cymru arall i ychwanegu i’w restr hir o wobrau, yn cynnwys Gwobrau’r Ŵyl Geltaidd, BAFTA Cymru yn 2017, 2020 a gwobr Canmoliaeth Uchel yn y Gwobrau Broadcast yn Llundain yn 2019.
Dywedodd Angharad Elen, Cynhyrchydd Deian a Loli, “Mae’n braf gweld Deian a Loli yn ennill gwobr yn yr Ŵyl Geltaidd ac yn cael enwebiad am y pumed flwyddyn yn olynol yn Bafta Cymru, sy’n brawf fod y gyfres yn mynd o nerth i nerth.”
Roedd Martin Thomas, Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr Deian a Loli hefyd wrth ei fodd. “Wel am newyddion ffantastig!! O bosib fod yr enwebiad BAFTA yma hyd yn oed yn fwy o gamp eleni o ystyried bod y bennod arbennig yma wedi ei ffilmio dros gyfnod o 5 diwrnod mewn swigen Covid o dan amgylchiadau heriol iawn. Mae ymroddiad y cast a’r criw i gyd yn allweddol i lwyddiant y rhaglen a da ni’n hynod o falch fod hynny yn cael ei werthfawrogi.”
Mae Barry ‘Archie Jones’ wedi derbyn enwebiad BAFTA Cymru yng nghategori ‘Ysgrifennwr’ ar gyfer y gyfres gomedi S4C, Rybish. Mae’r gyfres yn cael ei ymuno ar y rhestr fer gan Gareth Evans a Matt Flannery am Gangs of London (Sky Atlantic), a Russell T Davies am It’s A Sin (Channel 4).
Dywedodd Archie, “Ma’n reit swreal gweld ein cynhyrchiad bach ni ysgwydd yn ysgwydd a chyfresi mor enfawr ‘de, a grêt gweld fod sgwennu comedi yn cael ei gydnabod. Roedd gwybod fod yr actorion a chriw gorau posib gennym ni ar gyfer y prosiect yn holl bwysig, ag oedd o’n bleser pur gweld y sgriptiau’n dod yn fyw yn eu dwylo.Diolch i S4C a Cwmni Da am roi lle i ni arbrofi ag amser i ni ddatblygu’r syniad yn iawn ag i BAFTA Cymru am werthfawrogi’r gwaith.”
Bydd y cyflwynydd Alex Jones yn cyflwyno’r seremoni ddigidol BAFTA Cymru ddydd Sul 24 Hydref, 19.00 GMT ar draws sianeli cymdeithasol BAFTA.