Mae Cwmni Da yn falch iawn o gyhoeddi eu llwyddiant yn derbyn nawdd cynhyrchu gan y BFI drwy’r cynllun YACF (Young Audiences Content Fund) – a hynny am yr eildro.

Y llynedd, cyhoeddwyd fod y gyfres ddrama aml-blatfform, Person/A, wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau nawdd cynhyrchu drwy’r un cynllun.

Ar gyfer plant 8-13 oed, bydd Hei Hanes! yn cyfuno hanes, drama a flogio mewn fformat anarchaidd, fydd yn dod â hanes Cymru yn fyw mewn ffordd fywiog a chyfoes. Bydd cymeriadau ifanc o bob oes yn cynnig eu profiadau fel petaent yn YouTubers profiadol, gan roi’r argaff eu bod wedi eu ffilmio yn gyfan gwbl ar ffonau clyfar neu webcams gan y cymeriadau eu hunain. Bwriad y cynhyrchwyr yw cwmpasu nifer o ddigwyddiadau hanesyddol pwysig, er enghraifft carcharu’r Dywysoges Gwenllian yn 1283, Gwrthyfeloedd Hil Caerdydd yn 1919 a thrychineb boddi Cwm Celyn yn 1965.

Fel rhan o’r comisiwn, mae Hei Hanes! yn cynnig swydd yn y tîm cynhyrchu i unigolyn o gefndir BAME sydd yn newydd i’r diwydiannau creadigol.

Mae cynyrchiadau plant a phobl ifanc Cwmni Da wedi mynd o nerth i nerth yn ddiweddar, gyda rhaglenni fel Deian a Loli, Shwshaswyn, Sblij a Sbloj, Cer i Greu, Ynys Adra ac mae’r cynyrchiadau drama Hei Hanes! a Person/A yn gam arall i ymestyn gorwelion y cwmni wrth greu drama i bobl ifanc.

“Da ni wrth ein boddau i gael nawdd i wireddu Hei Hanes!”, meddai cyd-gynhyrchydd y gyfres, Angharad Elen. “Mae’n bwysig fod plant Cymru yn cael clywed eu hanes eu hunain. Ar hyn o bryd, dydi hyn ddim yn digwydd yn ein hysgolion am nad yw’r cwricwlwm yn cefnogi hynny. Gobeithio y bydd y rhaglen hon yn mynd beth o’r ffordd i geisio unioni’r cam hwnnw.”

Yn ôl Dafydd Palfrey, cyd-gynhyrchydd a chyfarwyddwr y prosiect, “Bydd yn braf cael y cyfle i ddod â hanes yn fyw wrth i gymeriadau gyflwyno helynt eu bywydau yn uniongyrchol a hynny mewn ardull fodern a chyfarwydd. Trwy hyn, dwi’n gobeithio bydd Hei Hanes! yn ymgysylltu y gwylwyr â’u gorffennol a’u sbarduno i ddysgu mwy.”

Dywedodd Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Rhaglenni Plant S4C:

“Mae’r gronfa hon yn ein galluogi ni yn S4C i wella ar safon a lledu ein gorwelion o ran yr hyn y gallwn gynnig i blant a phobl ifanc. Mae’r Cynllun Mentora BAME ar Hei Hanes! yn ddatblygiad newydd a chyffrous iawn, na fyddai wedi bod yn bosib heb y gronfa.”