Mae cwmni teledu dyfeisgar wedi creu hanes darlledu trwy fod y cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gwblhau ffilmio cyfres ddrama gomedi yn ystod cyfnod clo Covid-19 – a hynny trwy greu swigen i’r cast a’r criw mewn tafarn sydd wedi cau.
Bu’n rhaid atal y gwaith cynhyrchu ar gyfres gomedi newydd, Rybish, sydd wedi’i lleoli mewn canolfan ailgylchu, ym mis Mawrth oherwydd yr argyfwng coronafeirws ond llwyddodd Cwmni Da, y cwmni cynhyrchu o Gaernarfon, i greu cynllun wnaeth alluogi’r rhaglen barhau i ffilmio.
Fe wnaeth aelodau’r criw hunan-ynysu am bythefnos cyn ailddechrau a chawsant eu profi’n rheolaidd trwy gydol y saethu.
Pan nad oeddent yn gweithio, roeddent wedi’u cartrefu yn nhafarn wag y Beuno, yng Nghlynnog Fawr ger arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn.
Adeiladodd y cwmni eu canolfan ailgylchu eu hunain ar hen safle tirlenwi yng Ngharmel, ger Caernarfon.
Defnyddiodd y criw gamerâu sefydlog a oedd yn cael eu rheoli o bell i ffilmio tair pennod olaf y gyfres chwe rhan, a fydd yn cael eu darlledu ar S4C yn ystod y misoedd nesaf.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Sion Aaron:
“Mi wnaethon ni ffilmio tair pennod o Rybish cyn yr argyfwng iechyd.
“Wrth i ni ffilmio golygfa gyntaf y bedwaredd bennod, cawsom alwad gan y swyddfa yn dweud wrthym i roi’r gorau iddi oherwydd y risg gynyddol o ledaeniad y coronafeirws.
“Wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo gael eu llacio, roeddem yn gallu ffurfio swigen oedd yn cynnwys y cast o chwech actor, yr awdur a’r cynhyrchydd a minnau. Felly roeddem yn gallu byw gyda’n gilydd yn nhafarn y Beuno a gaeodd ei drysau rai blynyddoedd yn ôl, a chydweithio i ffilmio’r tair pennod oedd yn weddill.
“Cyn yr argyfwng iechyd roeddem eisoes wedi penderfynu ffilmio’r gyfres mewn ffordd unigryw oedd yn golygu y gallai’r gweithredwyr camera a’r recordwyr sain weithio o bell.
“Mi wnaethon ni greu rôl newydd, y gwnaethon ni ei fedyddio’n ‘Covid Cop’, sef rhywun oedd ar y set drwy’r adeg i wneud yn siŵr ein bod ni’n cydymffurfio efo rheoliadau Covid-19.”
Yn ôl Sion, mae’r comedi yn troi o gwmpas bywyd beunyddiol mewn canolfan ailgylchu anghysbell yng Ngwynedd ac yn dilyn y chwe aelod o staff wrth iddyn nhw fynd o gwmpas eu gwaith bob dydd.
Ychwanegodd:
“Mae wedi ei hysgrifennu’n wych ac er bod y comedi’n gynnil mae’n ddoniol iawn.
“Fe wnaethon ni adeiladu ein canolfan ailgylchu ein hunain ar ôl llogi sgipiau gan Gyngor Sir Gwynedd a fu’n gefnogol tu hwnt i ni.
“Mae’r rhan fwyaf o’r golygfeydd yn digwydd yng nghaban y gweithwyr, y math o gwt yr ydych yn ei weld ym mhob canolfan ailgylchu.
“Roeddem am ei ffilmio mewn arddull debyg i Big Brother neu 24 Hours in A&E, y math yna o arddull pry-ar-y-wal a fyddai’n ychwanegu at y sgript sy’n canolbwyntio ar y cymeriadau. Mi wnaethon ni hynny yn y tair pennod gyntaf a gafodd eu ffilmio cyn y cyfnod clo, ac mae’r tair pennod olaf yn edrych yn union yr un fath o ran arddull â’r tair pennod gyntaf.
“Roedd yn golygu y gallem ailddechrau ffilmio ar ôl y cyfnod clo, gan nad oedd cynnal swigen cast i weithio ar wahân i’r criw yn rhy anodd.
“Mae’r Beuno wedi bod ar gau ers blynyddoedd a galwyd ‘last orders’ yno amser maith yn ôl, ond roedd y ffaith ein bod yn lletya yno yn golygu y gallem weithio gyda’n gilydd ac fe ddaethon ni i nabod ein gilydd hefyd a oedd yn fonws mawr.
“Rwy’n gwybod bod rhai operâu sebon hefyd yn ôl yn ffilmio ond maen nhw’n defnyddio technegau camera sy’n rhoi’r argraff bod yr actorion yn llawer agosach nag y maen nhw go iawn. Ond doedden ni ddim eisiau hynny.
“Gan fod y rhan fwyaf o’r golygfeydd yn Rybish yn digwydd mewn caban gweithwyr fyddai hynny ddim wedi gweithio. Ni fyddai digon o le, a byddai wedi bod yn anoddach i’r cast dyfu i mewn i’w cymeriadau.
“Credwn mai ein cyfres ni yw’r gyfres gomedi wedi’i sgriptio gyntaf yn y DU i gael ei chwblhau fel hyn yn ystod y pandemig Coronafeirws.”
Roedd awdur Rybish, y cynhyrchydd a’r ysgrifennwr Barry Jones, sydd wedi ennill gwobr BAFTA Cymru, yn falch iawn o gwblhau’r ffilmio.
Meddai:
“Roedd y ffaith i ni adeiladu ein set ein hunain mewn lleoliad mor anghysbell yn golygu ein bod ni wedi ein hynysu ac nad oedd peryg i aelodau’r cyhoedd alw heibio.
“Beth wnaeth ein helpu hefyd oedd ein bod ni wedi gwneud y ffilmio mewn ffordd unigryw. Roedd y camerâu wedi’u gosod mewn rig sefydlog uwchben yr actorion yn bennaf. Roeddwn i eisiau ffilmio mewn arddull oedd yn rhoi’r argraff bod y gwyliwr yn cael golwg slei ar yr hyn sy’n digwydd.
“Roeddem eisiau i Rybish fod yn seiliedig ar gymeriadau gyda’r comedi yn dod oherwydd ein bod ni’n mynd o dan groen y cymeriadau, felly roedd dod o hyd i’r actorion iawn yn hynod o bwysig, ac yn broses a gymerodd amser hir, ond rydym yn gwbl sicr ein bod wedi cael y cast gorau posibl yn y diwedd.
“Roedd yn bleser gweld cymeriadau, a oedd wedi bod yn eiriau ar bapur am gymaint o amser, yn dod yn fyw mewn ffordd mor orffenedig. Rydym am i’r gynulleidfa uniaethu efo’r cymeriadau fel eu bod nhw gobeithio yn gweld elfennau o bobl y maen nhw’n eu hadnabod, ac rydym yn credu bod y cast wedi mynd â hynny i lefel arall yn eu perfformiadau trwy gydol y gyfres.
“O ran llinellau stori, roeddem am eu cadw mor realistig â phosib. Byddai wedi bod yn hawdd ysgrifennu comedi dros ben llestri gyda phlot gwallgof am weithwyr mewn safle ailgylchu yn dod o hyd i gês dillad mewn sgip wedi’i stwffio’n llawn pres, ond nid dyna’r oedden ni ei eisiau.
“Dw i ddim yn siŵr a oes drama gomedi wedi’i ffilmio fel hyn erioed o’r blaen. Mae’n Gymreigaidd iawn ac nid yn unig o ran yr iaith. Mae gan y comedi a’r sefyllfaoedd gyd-destun Cymreig iawn.”
Ychwanegodd: “Mi wnaeth gymryd amser hir i mi i’w hysgrifennu a threuliais ddyddiau yn eistedd mewn cytiau yng nghanolfannau ailgylchu’r cyngor yn gwrando ar staff a sylwi ar beth oedd yn digwydd a’r hyn roedden nhw’n siarad amdano. Fe roddodd gipolwg go iawn i mi ar y gwaith a llond trol o syniadau.
Roedd yn amser cyffrous i’r actores Betsan Ceiriog, 22 oed, o Gaernarfon sy’n chwarae cymeriad o’r enw Bobbi yn Rybish, oherwydd dyma oedd y tro cyntaf iddi actio mewn rhaglen deledu.
Dywedodd Betsan, a raddiodd o Brifysgol Dewi Sant Caerdydd gyda gradd yn y celfyddydau perfformio ym mis Gorffennaf 2018:
“Roeddwn wrth fy modd i gael y rhan. Cefais glyweliad ac anfonais recordiad o fy hun. Roeddwn i eisoes yn adnabod un neu ddau o dîm Cwmni Da felly roedd hynny’n help.
“Mae fy nghymeriad Bobbi yn fyfyriwr prifysgol sydd newydd raddio ac yn gweithio yn y ganolfan ailgylchu dros yr haf i ennill ychydig o bres er mwyn gallu teithio’r byd.
“Roedd yn brofiad dysgu gwych yn enwedig gan ein bod yn cael ad libio ychydig. Fy nghynllun yn awr ydi cael mwy o rannau actio llwyfan a rhannau ar y teledu neu rannau perfformio mewn theatr gerdd.”
Cafodd rheolwr cyffredinol Cwmni Da, David Parry Evans, ei fedyddio’n ‘Covid Cop’ gan y criw ar y set wrth iddo ymgymryd â’r gwaith o sicrhau cydymffurfiad llym â rheoliadau coronafeirws.
Meddai:
“Fy ngwaith i oedd sicrhau bod gennym ddigon o gyflenwadau o hylif diheintio dwylo a bod popeth yn cael ei sychu a’i gadw’n lân a’i ddiheintio. Pe bai angen i weithredwr camera fynd i mewn i’r caban ar set yna byddwn yn sicrhau ei fod yn cael ei lanhau’n drylwyr wedi hynny.
“Roedd gen i wialen ddau fetr i sicrhau bod pawb oedd yn symud o amgylch y set ddau fetr oddi wrth ei gilydd ac yn gwisgo mwgwd wyneb ar hyd yr adeg. Roeddwn yn amlwg yn eithaf da yn y swydd oherwydd di mi gael y llysenw ‘Covid Cop’!”