Mae dau gynhyrchiad Cwmni Da wedi derbyn enwebiadau yng ngwobrau BAFTA Cymru eleni, sef Eirlys, Dementia a Tim yng nghategori Cyfarwyddwr Ffeithiol (Sion Aaron a Tim Lyn) a Deian a Loli yng nghategori Rhaglen Blant.
Mae Deian a Loli wedi cipio’r wobr yma yn y gorffennol ac wedi derbyn enwebiad bob blwyddyn ers dechrau’r gyfres yn 2016. Mae’r gyfres wedi ei gwerthu i Lydaw yn ddiweddar ac mae’r criw cynhyrchu wrthi’n ffilmio’r bumed cyfres ar hyn o bryd.
“Da ni’n ddiolchgar iawn i BAFTA Cymru unwaith yn rhagor,” meddai’r cyd-gynhyrchydd Nerys Lewis. “Y bennod a enwebwyd eleni ydi’r ffilm Nadolig arbennig, a sgrifenwyd gan Manon Wyn Jones a’i chyfarwyddo gan Martin Thomas. Roedd hi’n gymaint o hwyl i’w chynhyrchu a saethu. Criw bychan iawn ydyn ni; mae pob aelod o’r tîm yn rhoi cant y cant i’r gwaith ac mae’n destun balchder inni fod pob elfen o’r cynhyrchu – yn cynnwys yr effeithiau arbennig anhygoel – yn parhau i ddigwydd yn fewnol yn Cwmni Da.”
Mae Eirlys, Dementia a Tim yn adrodd stori dau hen ffrind sy’n cwrdd unwaith eto ar ôl dilyn llwybrau go wahanol yn eu bywyd. Mae’r ffilm hefyd ar restr fer Gwobrau Grierson eleni – digwyddiad mwyaf y calendr rhaglenni dogfen yng ngwledydd Prydain.
“Rwy’n hynod o falch bod ein dogfen wedi cael ei henwebu ar gyfer BAFTA Cymru,” meddai cyd-gyfarwyddwr y ffilm, Sion Aaron. “Mae gan Tim Lyn ac Eirlys Smith stori arbennig iawn i’w dweud, sy’n wefreiddiol ac ar brydiau’n ddigrif. Mae dementia yn cyffwrdd gymaint o fywydau a rydym ni wedi trio ein gorau i bortreadu’r realiti sy’n wynebu pobl fel Eirlys sy’n byw gydag Alzheimer’s cynnar.”
Bydd y seremoni Gwobrau yr Academi Brydeinig yng Nghymru yn darlledu ar sianeli cymdeithasol am 19:00 GMT ar 25 Hydref gydag Alex Jones yn cyflwyno am y tro cyntaf.