Mae sianel YouTube Noson Lawen yn dathlu’r wythnos hon ar ôl i fideos y sianel gael eu chwarae dros 10 miliwn o weithiau.
Wedi ei darlledu gyntaf yn 1982, mae’r gyfres adloniant poblogaidd wedi ei chynhyrchu gan Cwmni Da ers 2007 gan brofi i fod yn boblogaidd gyda chynulleidfaoedd o bob oedran. Mae llwyfan y Noson Lawen yn le i ddathlu’r amryw o dalentau sydd yma yng Nghymru boed yn gantorion, offerynwyr, yn gorau neu’n gomedïwyr.
Fe lansiwyd sianel YouTube Noson Lawen ddeng mlynedd yn ôl gyda fideo o Aled Hall yn canu’r gân ‘Noson Fel Hon’. Bellach, mae’r sianel wedi cyhoeddi dros 1,400 o fideos a gyda 7,000 o danysgrifwyr sy’n aros am y perfformiadau nesaf i gael eu rhyddhau.
Fideo mwyaf poblogaidd y sianel yw Dafydd Iwan ac amryw o berfformwyr yn canu ‘Yma o Hyd’ sydd wedi ei wylio 350,000 o weithiau.
Y gân fwyaf poblogaidd yw ‘Anfonaf Angel’ gan Robat Arwyn a Hywel Gwynfryn sydd wedi ei pherfformio gan ddeg artist gwahanol. Mae fersiwn Rhys Meirion wedi cael ei chwarae dros 250,000 o weithiau.
“Mae’r sianel YouTube yn rhoi bywyd newydd i’r caneuon” meddai Olwen Meredydd, cynhyrchydd y gyfres. “Mae’r gyfres yn cael ei darlledu ar S4C ond ‘da ni’n gwybod o’r sylwadau ar y caneuon fod nifer o bobl sydd ddim yn wylwyr rheolaidd S4C wrth eu boddau gyda’r fideos, ac mae’r sianel yn denu pobl sydd ddim yn siarad Cymraeg hefyd.
Mae’r sianel yn chwarae rhan hanfodol yn strategaeth S4C i ddarganfod cynulleidfaoedd newydd ar eu platfformau digidol. ‘Mae yn un o’r sianeli YouTube fwyaf poblogaidd yn yr iaith Gymraeg yn y byd!”
Meddai Elen Rhys, comisiynydd y gyfres “Den ni mor falch o’r gyfres hon. Dyma un o frandiau mwya’ poblogaidd a chyfarwydd y Sianel sy’n rhoi llwyfan i dalentau cyfarwydd a newydd ar draws Cymru. Mae’r newyddion yma’n wych ac yn adnodd mor bwysig i Gymru a thu hwnt.”
Bydd cyfres newydd sbon o Noson Lawen yn cael ei darlledu yn yr Hydref. Yn y cyfamser, fe allwch wylio rhai o’ch hoff artistiaid trwy wefan Noson Lawen s4c.cymru/nosonlawen neu wrth gwrs ein sianel YouTube YouTube.com/nosonlawen