Enillodd Cwmni Da ddwy wobr Bafta Cymru eleni, sef Eirlys, Dementia a Tim yng nghategori Cyfarwyddwr Ffeithiol (Sion Aaron a Tim Lyn) a Deian a Loli am Raglen Blant.
Mae Deian a Loli wedi cipio’r wobr yma yn y gorffennol ac wedi derbyn enwebiad bob blwyddyn ers dechrau’r gyfres yn 2016, yn ogystal a gwobr Canmoliaeth Uchel yn Broadcast 2019. Mae’r gyfres wedi ei gwerthu i ddarlledwr yn Llydaw yn ddiweddar ac mae’r criw cynhyrchu wrthi’n ffilmio’r bumed cyfres ar hyn o bryd.
“Diolch yn fawr iawn BAFTA am y wobr hyfryd ac i Cwmni Da am roi’r swydd o gyfarwyddo a chyd-gynhyrchu’r gyfres i mi. Mae wedi bod yn brofiad anhygoel a dw i mor falch o fod yn rhan o’r gyfres. Diolch yn fawr iawn hefyd i bawb ynghlwm a’r gyfres sy’n dod a’r straeon gwallgof yn fyw.” meddai Martin Thomas, cyfarwyddwr a chyd-gynhyrchydd Deian a Loli.
Mae Eirlys, Dementia a Tim yn adrodd stori dau hen ffrind sy’n cwrdd unwaith eto ar ôl dilyn llwybrau go wahanol yn eu bywyd. Cyrhaeddodd y ffilm hefyd ar restr fer Gwobrau Grierson eleni – digwyddiad uchag eu parch ym maes rhaglenni dogfen Prydain.
“Dw i’n siarad ar ran Eirlys a finnau wrth ddweud mi wneith hwn roi fwy o olau ar salwch fel Alzheimers rŵan. Diolch yn fawr iawn i fy nghyd-gyfarwyddwr talentog iawn, Sion Aaron. Dw i’n edrych ymlaen at weld lot mwy o dy waith di a pob lwc yn y dyfodol! Diolch eto BAFTA.” Meddai Tim Lyn, cyd-gyfarwyddwr Eirlys, Dementia a Tim.