Ar Y Dibyn
S4C | 6 x 30munud
Ddim mwy na 30 Gair i fynd fewn fan hyn. Yma fydd geiriau cryno, ‘billing’, syn disgrifio y rhaglen yn mynd. Fydd rhai ail ysgrifennu lot mae siwr. Mae’n ddrwg gen i.
Ddim mwy na 150 o eiriau i fynd yn y prif text! Bydd Ar y Dibyn, sy’n dechrau nos Iau, 8 Hydref, yn dilyn wyth cystadleuydd beiddgar yn cystadlu am swydd fel arweinydd antur mewn canolfan awyr agored yng Nghymru – diwydiant sy’n werth dros £400 miliwn i economi Cymru bob blwyddyn.
Yr wyth yw Rhys Gethin, 31, o Chwilog; Gethin Wyn Jones, 25, o Ddeiniolen; Gethin Fôn, 31, Benygroes ger Caernarfon; Tomos Gwynedd, 24 o Gaernarfon; Enfys Wyn Griffith, 25, o Waunfawr; Rachel Granger, 45, o Ruthun; Hannah Hughes, 24, o Gaeathro; a Gwenllian Roberts, 35, o Fethesda Bach.
Yn ystod y gyfres bydd yr ymgeiswyr yn gorfod profi eu hunain mewn amrywiaeth eang o weithgareddau awyr agored – o hwylio a chanŵio i ddringo, beicio mynydd a llawer mwy. Ond mi fydd eu personoliaethau a’u sgiliau arwain hefyd yn hawlio sylw’r beirniaid, yr arweinydd antur Dilwyn Sanderson-Jones a’r gyflwynwraig ac anturiaethwr, Lowri Morgan.
Mae Eryri’n cael ei hystyried ymhlith y llefydd gorau yn y byd i fwynhau yn yr awyr agored, ac mae’n lleoliad perffaith ar gyfer cyfres fel hon.
Bydd yr ennillydd yn cael cynnig swydd blwyddyn o hyd fel arweinydd awyr agored yn naill ai Canolfan Plas Menai neu yng Ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn. Yn ystod y flwyddyn mi fydd ein henillydd hefyd yn derbyn hyfforddiant llawn ym mha bynnag feysydd awyr agored maent yn dymuno arbenigo ynddynt.
Yn ogystal mae Cwmni Da wedi gweithio gyda chwmni Charity Challenge er mwyn cynnig taith fythgofiadwy i’r enillydd i begwn mynydd uchaf gogledd Affrica.