Mae llwyddiant Deian a Loli yn parhau gydag enwebiad ar gyfer un o brif gystadlaethau teledu ym Mhrydain, sef y Broadcast Awards. Y rhaglen hon, sy’n cael ei chynhyrchu gan Cwmni Da a’i darlledu ar S4C, yw’r unig gynhyrchiad Cymraeg sydd wedi cael enwebiad yn unrhyw un o’r 21 categori. Ochr yn ochr â Deian a Loli ar y rhestr fer ar gyfer Dramâu i Blant Meithrin, mae cynyrchiadau gan Cbeebies, Nick Jr a Disney. Cipiodd Deian a Loli BAFTA Cymru yn 2017 a chafodd enwebiad ar gyfer BAFTA Cymru a’r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd yn 2018.
Mae cynulleidfaoedd ifainc yng Nghymru yn parhau i wirioni ar y gyfres, gyda thocynnau ar gyfer rhagddangosiadau y gyfres newydd yn mynd fel slecs. Mae dros 2,500 o docynnau wedi mynd bellach, a hynny mewn 13 dangosiad gwahanol ledled Cymru. Bydd 4 dangosiad yn Pontio, Bangor (gydag 800 tocyn yn gwerthu allan o fewn 10 munud iddynt gael eu rhyddhau); 2 ddangosiad yn Nghanolfan S4C yr Egin, Caerfyrddin; 2 ddangosiad yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth; 3 dangosiad yn Neuadd Ogwen, Bethesda; ac 1 dangosiad yn noson Popty Popcorn Menter Iaith Bangor ac un dangosiad yn Chapter, Caerdydd.
Daw hyn oll ar ôl blwyddyn gyffrous i’r gyfres wrth iddyn nhw arwyddo cytundeb gyda chwmni dosbarthu Videoplugger, fydd yn mynd ati yn y flwyddyn newydd i geisio gwerthu’r gyfres yn rhyngwladol.
Dywedodd Angharad Elen, cynhyrchydd y gyfres:
“Mae’n braf i dderbyn cydnabyddiaeth ehangach ac mae derbyn enwebiad am wobrwyon fel hyn yn hyfryd iawn. Ond y wefr fwyaf ydi bod yn dyst i boblogrwydd y gyfres ymysg plant Cymru. Rydan ni’n cael llythyrau neu ebyst gan ffans y gyfres yn wythnosol a dwi’n edrych ymlaen yn arw i glywed eu hymateb i’r gyfres newydd.”
Bydd y gyfres newydd yn dechrau darlledu ar blatfform Cyw, S4C ar ddydd Mercher, 2 Ionawr.