Mae Cwmni da yn dathlu wythnos yma gyda’r newyddion bod sawl cynhyrchiad y cwmni wedi cael eu henwebu ar gyfer gwobrau yn ddiweddar.
Mae ein cyfres boblogaidd, Deian a Loli wedi derbyn enwebiad yng ngwobrau RTS Cymru. Daeth yr enwebiad o fewn y categori plant ar gyfer y bennod ‘Deian a Loli a Dygwyl y Meirw’.
Nid dyma’r tro cyntaf i Deian a Loli gael ei enwebu wrth gwrs. Mae’r gyfres wedi gweld sawl llwyddiant a gwobrau dros y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys Gwobrau’r Ŵyl Geltaidd, BAFTA Cymru yn 2017, 2020, 2021 a gwobr Canmoliaeth Uchel yn y Gwobrau Broadcast yn Llundain yn 2019.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld yr enwebeion, eu cydweithwyr a’n noddwyr ar 8 Ebrill i gynnig llongyfarchiadau haeddiannol iddyn nhw. Rydym wedi gwneud teledu anhygoel dros y ddwy flynedd ddiwethaf boed hynny ar gyfer y gynulleidfa gartref neu ar draws y byd a dylem ddathlu ein gwaith caled.” meddai Edward Russell, cadeirydd RTS.
Fe gafodd y pennod ei gynhyrchu gan Martin Thomas : ‘’Ffantastig!! Da ni’n hynod o ddiolchgar i RTS Cymru am yr enwebiad. Mae cael cydnabyddiaeth am yr holl waith caled aeth i mewn i’r bennod hudolus yma yn rhywbeth arbennig iawn i ni fel criw. Mi roddodd pob aelod o’r cast a chriw cant y cant i’r gwaith a hynny mewn cyfnod heriol iawn gan gyflawni pennod sydd yn destun balchder i ni gyd.’’
Yn ogystal a Deian a Loli, mae tri chynhyrchiad arall Cwmni Da wedi ei enwebu ar gyfer gwobrau yn yr Ŵyl Geltaidd eleni. Mae’r rhaglen Radio Cymru ‘Dim Byd ar y Radio’, y gyfres goginio Bwyd Epic Chris a’r gyfres gomedi Rybish i gyd wedi derbyn enwebiadau.
“Da ni fel tîm mor falch o enwebiad Bwyd Epic Chris yn y categori ‘Adloniant Ffeithiol’ yn yr Ŵyl Geltaidd eleni. Mae’n dyst i waith caled y tîm cynhyrchu ac yn arbennig i ddawn Chris am gyflwyno a chogino bwyd anhygoel. Diolch arbennig hefyd i Elen Rhys yn S4C am gomisiynnu’r gyfres a’r holl gefnogaeth”. Meddai Aneurin Thomas, cynhyrchydd a chyfarwyddwr Bwyd Epic Chris.
“Ma’n wych fod hiwmor sydd, ar yr olwg gyntaf, yn rhywbeth mor blwyfol i Ogledd Cymru, yn gallu cael ei werthfawrogi gan gynulleidfa o wledydd eraill. Dwi’n meddwl fod hyn yn dangos bod y themâu o gymuned glos yn trio delio’r gorau y gallant efo be mae’r byd yn ei daflu atynt, yn canu cloch efo ni gyd!” Meddai Barry ‘Archie’ Jones, cynhyrchydd ac awdur Rybish.
Mae’r gyfres diweddaraf o Deian a Loli yn parhau i gael ei ail ddarlledu bob bore dydd Iau ar Cyw, S4C ac ar gael i’w gwylio ar BBC iPlayer ac S4C Clic.
Mae’r ail gyfres o Rybish yn darlledu ar S4C o’r 1af o Ebrill a chyfres arall gyda Chris yn dychwelyd diwedd y flwyddyn.
Llongyfarchiadau mawr i’r criwiau cynhyrchu a phob lwc ar y ddau ddiwrnod mawr!