Mae Cwmni Da yn dathlu gyda’r newyddion bod sawl cynhyrchiad wedi eu henwebu ar gyfer Gwyl Geltaidd 2023, wythnos yma.

Fe gafodd Deian a Loli enwebiad yng nghategori Rhaglen Blant, Rybish yng nghategori Comedi, Bwyd Epic Chris yng nghategori Adloniant Ffeithiol a Rain: The Untold Story sydd wedi cael enwebiad yng nghategori Cyfres Ffeithiol.

Mae Deian a Loli yn gyfres boblogaidd am efeilliaid direidus â’u pwerau hudol sydd yn cael ei darlledu bob bore Iau ar Cyw ac ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Yn y gyfres Bwyd Byd Epic Chris, mae’r cogydd Chris Roberts yn ffeindio’r cynnyrch lleol gorau i allu creu prydau cŵl i ffrindiau a theulu. Mae’r cynhyrchydd, Aneurin Thomas, yn falch i dderbyn yr enwebiad.

“Dwi’n falch iawn o gyhoeddi bod Bwyd Byd Epic Chris wedi cael ei enwebu am wobr yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd 2023. Diolch arbennig i Chris a chyfranwyr y rhaglen i gyd, Elen Rhys yn S4C am gomisiynu’r rhaglen ac wrth gwrs i holl staff Cwmni Da.”

Mae Rybish yn gyfres ddrama gomedi yn dilyn chwe aelod o staff wrth iddyn nhw fynd o gwmpas eu gwaith bob dydd mewn canolfan ailgylchu yng Ngogledd Cymru, tra bod Rain: The Untold Story yn cyd-gynhyrchiad sydd wedi’i enwebu, trwy ein partneiriad yn yr Alban, Mac TV.

Llongyfarchiadau mawr i’r criwiau cynhyrchu a phob lwc!