Cyfres Ddrama Hanesyddol i Bobol Ifanc
Ydych chi’n hoff o flogio, ac actio… tra’n gwisgo dillad rili hen ffasiwn?! Wel, dyma’ch cyfle!
Mae Cwmni Da yn chwilio am actorion ifanc rhwng 10-18 mlwydd oed ar gyfer cyfres hanesyddol gyffrous newydd sbon i S4C.
Efallai y cewch chi’r siawns i ymladd bwystfilod heintus yn yr Oesoedd Canol, chwarae rhan ditectif ar drywydd UFOs yn yr 1970au, neu berfformio rap battles yn Llys Tywysog Powys…? A phopeth fel petai’n cael ei flogio gennych chi; jyst fel YouTube neu TikTok!
Yn gyntaf, bydd gofyn i chi ffilmio eich hunain yn perfformio un o’r darnau o sgript a’i ddanfon i mewn atom ni. Dewiswch gymeriad o’r sgriptiau yn seiliedig ar eich acen naturiol. Byddwn ninnau wedyn yn dewis ymgeiswyr ac yn cysylltu i drefnu clyweliad pellach.
Mi fydd y gyfres yn cael ei ffilmio yn ystod Haf 2021.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn anfonwch neges at Elin – elin.tomos@cwmnida.tv
Llenwch y ffurflen gais fan hyn!
Lawr lwythwch y sgriptiau:
Dyddiad cau: 10 Mai