Y Swydd
Mae Cwmni Da wedi cael comisiwn gan S4C/BFI i gynhyrchu cyfres ddrama newydd ar gyfer plant 9-13 oed o’r enw Hei Hanes. Rydym yn chwilio am unigolyn i weithio fel aelod o’r tîm cynhyrchu.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â’r tîm yn ystod y cyfnod datblygu ac yn cael profiadau amrywiol o’r broses gynhyrchu drwy gydol – yn ddibynnol ar ddiddordebau penodol yr ymgeisydd llwyddiannus.

Ar gyfer y swydd hon, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl Ddu, Asiaidd ac Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) yn arbennig, gan nad yw’r garfan honno yn derbyn cynrychiolaeth gytbwys yn y sector ar hyn o bryd. Rydym yn awyddus i ddarlunio hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth a byddai unigolyn sydd â gwybodaeth a dealltwriaeth o hanes Cymru o safbwynt BAME yn cyfoethogi ein cynnwys ac yn gymorth inni gyrraedd ein nod.

Nid oes rhaid i’r ymgeisydd fod â phrofiad blaenorol o weithio yn y sector ffilm a theledu – er y byddai hynny yn fuddiol. Er fod medru siarad a deall Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma, nid oes rhaid i ymgeiswyr feddu ar Gymraeg rhugl.

Cyfnod: Dyddiadau penodol rhwng Rhagfyr 2020-Awst 2021. I’w drafod.

Lleoliad: Mae’r swydd yma wedi ei lleoli yng Nghaernarfon, a bydd peth o’r saethu yn digwydd yng Nghaerdydd. Croesawn geisiadau o bob cwr o Gymru. Byddwn yn cyfrannu tuag at gostau teithio a llety os bydd angen.

Cyflog: I’w drafod ar sail profiad a sgiliau yr unigolyn

Cwmni Da
Mae Cwmni Da yn gwmni cynhyrchu annibynnol wedi ei leoli yng Nghaernarfon. Mae’n cynhyrchu rhaglenni adloniant, adloniant ffeithiol, dogfen, plant, chwaraeon, comedi a drama. Mae cynhyrchiadau’r cwmni wedi ennill gwobrau yng Nhymru, y DU a thu hwnt ac wedi derbyn canmoliaeth am eu safonau cynhyrchu uchel. Ymysg cynhyrchiadau diweddar Cwmni Da mae Deian a Loli, Bwyd Epic Chris, Garddio a Mwy, Pwy Geith Y Gig, a Ffit Cymru. Bydd yr ymgeisydd llwyddianus yn ymuno â thîm creadigol a phroffesiynol sydd â’r gallu i lunio straeon celfydd gyda safonau uchel.

Ceisiadau
Gyrrwch ebost yn cynnwys eich CV, a phwt yn egluro pam mai chi ydi’r person gorau am y swydd at elin.tomos@cwmnida.tv.

Dyddiad Cau: 5pm, dydd Llun, 9 Tachwedd