Cwblhaodd myfyriwr ol-radd o Wynedd astudiaeth PhD arloesol yn y byd digidol gyda nawdd Cwmni da. Roeddem wedi noddi astudiaethau Shân Pritchard ym Mhrifysgol Bangor i astudio’r defnydd o’r Gymraeg yn y byd digidol.
Roedd gwaith academig Shân yn rhan bwysig o’n cynyrchiadau amlgyfrwng, sef Dyma Fi a Generation Beth gafodd eu darlledu led led Ewrop.
“Heb nawdd Cwmni Da, ni fyddai wedi bod yn bosib i mi allu parhau gyda fy astudiaethau na chynnal yr astudiaeth arloesol hon”, meddai Shân o Fethesda.
‘Mae’r traethawd yn canolbwyntio’n benodol ar ganfod profiadau ac agweddau siaradwyr Cymraeg o ddefnyddio apiau Cymraeg neu ddwyieithog. Wrth gwrs, nodwedd arloesol yr astudiaeth yw ei bod wedi ei chynnal mewn partneriaeth gyda Cwmni Da ac felly’n pontio’r bwlch rhwng y byd academaidd a’r byd masnachol. O ganlyniad, mae casgliadau’r astudiaeth yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer cynllunwyr ieithyddol a gwneuthurwyr polisi yn ogystal â Cwmni Da a’r diwydiant apiau digidol yng Nghymru.’
Roedd yn gyfraniad gwerthfawr i faes sydd o bwysigrwydd cynyddol gan fod y byd digidol yn gallu bod yn dirwedd heriol ar gyfer ieithoedd bach y byd.
‘Hoffwn ddiolch hefyd i bawb yn Cwmni Da am fod mor groesawgar yn ystod fy nghyfnod yn gweithio yn y swyddfa. Roeddwn i wrth fy modd ac mi fyddai’n edrych yn ôl ar y cyfnod hwn gydag atgofion melys iawn, ychwanegodd.’
Diolch yn fawr i ti Shân, ac wrth gwrs, bydd croeso mawr i ti unrhyw bryd yma yn Cwmni Da.