Wrth i bawb geisio addasu eu ffordd newydd o fyw drwy hunan ynysu yn eu cartrefi, bydd y gyfres FFIT Cymru yn dychwelyd i rannu syniadau positif ac ysbrydoledig gyda’r genedl.
Dros gyfnod o dau fis, bydd pum arweinydd o bob cwr o Gymru yn ceisio trawsnewid eu hiechyd drwy ddilyn cynlluniau arbennig gan y tri arbenigwr, y dietegydd Sioned Quirke, yr hyfforddwraig bersonol Rae Carpenter a’r seicolegydd Dr Ioan Rees.
Gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, bydd yr arweinwyr a’u teuluoedd yn rhannu pob cam o’u taith FFIT Cymru gyda’r gyflwynwraig Lisa Gwilym yn y stiwdio, a’r gwylwyr gartref. Bydd yr arbenigwyr yn rhannu cyngor ar sut i gadw’n ffit tra’n ynysu adref, sut i ofalu am les ac iechyd meddwl ac yn rhannu cyngor ar sut i fabwysiadu arferion bwyta da. Yn ogystal, eleni bydd y cogydd adnabyddus sydd wedi cystadlu ar y gyfres Great British Bake Off, Beca Lyne-Pirkis, yn cyfrannu i’r cynllun bwyd bob wythnos gan gynnig ryseitiau iachus sy’n hawdd i’w dilyn ac ail-greu adref.
Mewn cyfnod sy’n heriol ac ansicr i bawb, bydd FFIT Cymru yma i gynnig cysur i bawb a bydd hi’n bosib i CHI gymryd rhan adref hefyd trwy ddilyn y cynlluniau bwyd a ffitrwydd arbennig ar-lein ar wefan FFIT Cymru, www.s4c.cymru/ffitcymru ac ar gyfryngau cymdeithasol @ffitcymru.
Meddai Siwan Haf, Cynhyrchydd y gyfres: “Bydd FFIT Cymru yn gyfres all helpu pobl i gadw’n iach – yn gorfforol a meddyliol wrth i bawb orfod byw ar wahân o’u teuluoedd a’u ffrindiau.
“Dyma blatfform aml-gyfrwng all gynnig arweiniad a help llaw ymarferol mewn cyfnod o ymbellhau’n gymdeithasol a hunan-ynysu.
“Cawn weld sut bydd ein harweinwyr yn ymdopi gyda’r ‘norm’ newydd wrth i bawb orfod addasu. Mae popeth wedi newid i bawb a byddwn yn gweld sut mae ein harweinwyr a’u teuluoedd yn ymdopi i fyw bywyd iach gan dderbyn cyngor bob cam o’r daith unigryw hon gan ein tri arbenigwr.”
Ymhlith y pum arweinydd eleni, mae radiograffydd, deintydd, dau athro a swyddog mudiad gwirfoddoli.
Y pump arweinydd ar gyfer y gyfres eleni yw:
Kevin Jones, 53, o Rhuthun; Ruth Evans, 45, o Lanllwni; Elen Rowlands, 23, o Rhuthun; Iestyn Owen-Hopkins, 27, o Gaernarfon yn wreiddiol ond nawr yn byw yn Llanrhymni a Rhiannon Harrison, 28, o Aberystwyth.
Dywedodd Rae Carpenter: “Mae’n hollol wych fod y gyfres yma yn mynd i allu helpu nid yn unig y pum Arweinydd – ond Cymru gyfan. Mae angen cynnig cyfres fel hyn ar yr adeg yma i wylwyr S4C fwy nag erioed.”
Bydd dau math o bodlediad Soffa i 5k FFIT Cymru, sy’n cael ei leisio gan Rae Carpenter, ar gael i’w lawrlwytho gan gynnwys fersiwn newydd ar gyfer dysgwyr tra bod holl gynlluniau ymarfer corff a chynlluniau bwyd yr arweinwyr i’w gael ar wefan FFIT Cymru, www.s4c.cymru/ffitcymru.
Yn ogystal, eleni mae Rae yn cynnal sesiynau ffitrwydd dyddiol yn ystod yr wythnos, ar gyfer y teulu cyfan wrth hunan ynysu adref.
I wylio nhw, ewch i www.youtube.com/ffitcymru Ar gyfer y newyddion diweddaraf a chynnwys ychwanegol o’r gyfres, dilynwch @ffitcymru ar Facebook, Twitter ac Instagram.