Mae drysau’r Academi Felys yn ail-agor eleni! Mae Richard Holt – cogydd patisserie a cheidwad Melin Llynon – yn chwilio am lond llaw o bobyddion newydd i ymuno ag ef yn y gyfres deledu i S4C. Bydd y profiad unigryw hwn yn gweld nifer dethol o bobyddion addawol yn mynychu Academi Richard, lle bydd dewin y cacennau yn gosod llu o heriau pobi arallfydol i brofi’r cystadleuwyr i’r eitha, ac yn rhannu rhai o’r cyfrinachau gorau a ddysgodd wrth weithio mewn bwytai seren Michelin.
Meddai Richard: ‘Ges i GYMAINT o hwyl yn ffilmio’r gyfres gyntaf. Oe’n i mor impressed efo safon cacennau a datblygiad y cystadleuwyr, ac yn rili hapus i weld faint ‘natho nhw fwynhau eu profiad yn yr Academi. Rwan, ‘dwi’n edrych am griw newydd o bobyddion talentog i ymuno efo fi yn y gegin. Os ‘da chi’n caru cacennau, yn hoffi heriau hwyl, isio dangos eich doniau ac yn awyddus i ddysgu sgiliau arbennig newydd, cerwch amdani!’
Os hoffech chi neu rywun rydych chi’n nabod roi cynnig ar y cyfle euraidd hwn, dilynwch y ddolen a gwnewch gais erbyn Awst 14!
Eleni, am y tro cyntaf, bydd enillydd y gyfres yn derbyn gwobr anhygoel: gwyliau i ddau berson yng nghartref patisserie y byd, Paris! Yno, byddan nhw’n aros mewn gwesty bŵtic am ddwy noson a chael profiad bwyd arbennig.
Awyddus i ddangos eich talent pobi?
Gwnewch gais am y cyfle euraidd hwn nawr!
Gofynion: Er mwyn cael eu hystyried ar gyfer y sioe, rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed, gallu siarad Cymraeg, ac yn angerddol am bobi! Os hoffech chi neu rywun rydych chi’n nabod wneud cais, anfonwch eich enw llawn, oedran, lleoliad, bio byr (dim mwy na 250 gair), llun proffil a lluniau o’ch cacennau gorau yma:Prif ddyddiadau a lleoliadau: Cyflwynwch eich manylion cyn gynted â phosibl – y dyddiad cau fydd dydd Sul 14 Awst. Bydd ffilmio’n digwydd yn yr hydref yn bennaf yn Ysgol Goginio Bodnant (Dyffryn Conwy) a Melin Llynon (Llanddeusant, Ynys Môn).
Dilynwch @academifelys ar Instagram, Facebook a TikTok i ddal fyny ar y cacennau, cystadleuwyr a holl hwyl cyfres 1.
Mae Cwmni Da yn chwilio am Swyddog Cyllid brwdfrydig i ymuno â thim cyllid bychan ond prysur yma yng Nghaernarfon.
Mae Cwmni Da yn gwmni cynhyrchu annibynnol wedi ei leoli yng Nghaernarfon. Mae’n cynhyrchu rhaglenni adloniant, adloniant ffeithiol, dogfen, plant, chwaraeon, comedi a drama. Mae cynhyrchiadau’r cwmni wedi ennill gwobrau yng Nhymru, y DU a thu hwnt ac wedi derbyn canmoliaeth am eu safonnau cynhyrchu uchel. Ymysg cynhyrchiadau diweddar Cwmni Da mae Deian a Loli, Bwyd Epic Chris, Garddio a Mwy, Noson Lawen, Canu Gyda Fy Arwr a Ffit Cymru. Bydd y swydd yn un rhan amser ac rydym yn gallu bod yn hyblyg gyda’r oriau hyn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar bob cynhyrchiad mae’r Cwmni yn ei gynhyrchu.
Mae’r cwmni yn gwmni sydd ym mherchnogaeth y gweithlu a bydd yr ymgeisydd llwyddianus yn dod yn rhan o’r strwythur perchnogaeth ar ôl blwyddyn o gyflogaeth.
Prif Ddyletswyddau
- Delio gydag Anfonebion Cyflenwyr a Chwsmeriaid
- Prosesu Datganiadau Cerdyn Credyd
- Paratoi Adroddiadau Ariannol ar gyfer Rheolwyr Cynhyrchu
- Prosesu Arian Parod
Sgiliau Allweddol
- Gallu rhifedd cryf ee TGAU Mathemateg da
- Dealltwriaeth o becyn Cyfrifon
- Dealltwriaeth o feddalwedd taenlen (ee Excel)
- Cyfathrebu da trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg
Sgiliau Dymunol
- Cymhwyster Cyllidol e.e AAT rhanol neu llawn
- Profiad o becyn cyfrifeg Sage 50
- Profiad o becyn meddalwedd Excel
Rhinweddau – Gweithgar, trylwyr, trefnus, hwyliog a pharod i gynorthwyo eraill.
Cyflog – yn ôl profiad
Oriau – 24 awr yr wythnos
Lleoliad – Caernarfon
Gallwch lawr lwytho’r ffurflen gais fan hyn
Dyddiad Cau : 02/04/2021
This is an advertisement for the rôle of Post-Production & Resources Technician, for which Welsh language skills are essential.
Technegydd Ôl-Gynhyrchu ac Adnoddau
Y Swydd:
Mae Cwmni Da yn chwilio am Dechnegydd Ol-Gynhyrchu ac Adnoddau i ymuno ac adran ôl-gynhyrchu prysur.
Yn ddelfrydol, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn brofiadol gyda gweithdrefnau a meddalwedd amrywiol a geir mewn stafell beiriannau (MCR), yn gyfarwydd â chamerau ac adnoddau sain amrywiol, ac yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol gwych. Prif ddyletswyddau’r ymgeisydd llwyddiannus fydd rhoi cefnogaeth technegol i’r golygyddion a stafelloedd dybio yn ogystal â chydlynnu a pharatoi camerau/offer sain yn barod i fynd allan i saethu.
Hyfforddiant:
Rydym yn awyddus i glywed gan bobl profiadol yn ogystal â’r rhai sydd am gychwyn gweithio yn y maes. Cynnigir hyfforddiant mewn swydd lle’n berthnasol.
Cyflog: I’w Drafod
Oriau: Llawn Amser (Cytundeb 6 mis i gychwyn)
Lleoliad y Swydd: Caernarfon
Cwmni Da
Mae Cwmni Da yn gwmni cynhyrchu annibynnol wedi ei leoli yng Nghaernarfon. Mae’n cynhyrchu rhaglenni adloniant, adloniant ffeithiol, dogfen, plant, chwaraeon, comedi a drama. Mae cynhyrchiadau’r cwmni wedi ennill gwobrau yng Nhymru, y DU a thu hwnt ac wedi derbyn canmoliaeth am eu safonnau cynhyrchu uchel. Ymysg cynhyrchiadau diweddar Cwmni Da mae Deian a Loli, Bwyd Epic Chris, Garddio a Mwy, Noson Lawen, Canu Gyda Fy Arwr a Ffit Cymru. Bydd yr ymgeisydd llwyddianus yn ymuno ag adran Ôl-Gynhyrchu creadigol, brwdfrydig a phroffesiynnol sy’n meddu ar y safonnau technegol uchaf posib.
Mae’r cwmni yn gwmni sydd ym mherchnogaeth y gweithlu a bydd yr ymgeisydd llwyddianus yn dod yn rhan o’r strwythur perchnogaeth.
Sgiliau allweddol :
Hanfodol:
- Diddordeb yn ochr Technoleg o Ôl-Gynhyrchu
- Brwdfrydedd am offer camera
- Siaradwr Cymraeg
Buddiol:
- Profiad gydag Avid Media Composer/gweithio mewn stafell beiriannau
- Profiad gydag offer Camra a Sain
Nodweddion personol:
- Y gallu i gyfathrebu yn dda a bod yn rhan o dîm
- Meddwl trefnus
- Agwedd hyblyg
- Person sy’n cynnnig atebion i broblemau
- Hiwmor
Ceisiadau
CV a llythyr yn egluro pam eich bod yn addas ac a diddordeb yn y swydd at
post@cwmnida.tv erbyn Chwefror 25ain, 2021.