Byddwn yn creu rhestr fer o’r ymgeiswyr ac yn eich gwahodd am glyweliadau pellach. Does dim rhaid cael profiad actio blaenorol.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Mehefin 25, 2021 (5pm)
Beth yw Persona?
Cyfres ddrama 6 x 15 munud i bobl ifanc wedi ei lleoli yn ardal Dyffryn Nantlle. Mae Katie’n glyfar, yn ffraeth ond mae hi’n unig. Dyw hi ddim yn rhan o’r criw. Mae hi eisiau ffrind sy’n ei derbyn, rhywun i wrando arni a’i deall. Mae Katie dan straen adref a’i brawd Dan fawr o help. Mae’n well ganddo fo syrffio na rhedeg eu parc carafanau. Pan mae Anna’n cyrraedd caiff Katie ei hudo gan y dieithryn yma ac mae cyfeillgarwch yn blaguro. Tydi Katie ddim isio colli ei gafael ar y ferch enigmatig, wahanol hon sy’n ei deall. Nid Katie’n unig sydd â’i bryd ar Anna ond does dim bwriad ganddi i’w rhannu. Ond pwy yw Anna?
Sut ydw i’n ymgeisio?
Llenwch y ffurflen yma ac uwchlwythwch fideo yn cyflwyno eich hun mewn ffordd greadigol (tua munud o hyd)