Afal Drwg Adda

S4C

Mewn drama ddogfen gan Cwmni Da cawn ddarlun gonest o fywyd un o lenorion pwysicaf Cymru gan roi sylw i’r profiadau anodd a gafodd fel plentyn ac oedolyn.

Rhan annatod o’r bywyd cymhleth hwnnw oedd ei berthynas gyda’i fam ansefydlog a fu’n gymaint o ddylanwad ar ei waith.

Ym 1972, aeth Caradog Prichard i’r ysbyty am lawdriniaeth ar gancr ar ei wddf. Ag yntau dan ddylanwad yr anaesthetig, daeth pob math o atgofion – rhai’n wirionedd, rhai’n ffrwyth dychymyg – i gadw cwmni iddo. Yn fuan wedyn, dechreuodd ysgrifennu ei hunangofiant, Afal Drwg Adda. ‘Hunangofiant Methiant’ fel y’i geilw gan Caradog.

Gan wneud defnydd o luniau a chyfweliadau archif a chyfraniadau gan arbenigwyr, mae’n ddarlun gonest ar blentyndod Caradog ym Methesda a’i yrfa fel newyddiadurwr yng Nghaernarfon, Llanrwst, Caerdydd a Llundain.

Y diweddar Stewart Jones, yn ei berfformiad teledu olaf, sy’n portreadu Caradog ym 1972 a Llion Williams sy’n chwarae’r dyn iau. Judith Humphreys sy’n portreadu mam Caradog gyda’i holl gymhlethdodau seicolegol. Cafodd y ddrama ddogfen ei chyfarwyddo gan Dylan Wyn Richards, sydd hefyd yn un o’r cyd-awduron gydag Angharad Elen ac Aled Jones-Williams. Cafodd y rhaglen ei ddarlledu ym mis Tachwedd 2011.