Gêmtiwb

Gemau sy’n achub yr iaith.

Prosiect digidol cyffrous ar gyfer plant 7-12 oed sydd wedi profi’n llwyddiant arbennig.

Mae prosiect ‘ Gêmtiwb’ wedi bod yn helpu gemwyr ifanc greu sianeli YouTube yn yr iaith Gymraeg. Fe gafodd gwefan Gêmtiwb ei lansio i ddangos y fideos sydd wedi eu creu yn stiwdio Cwmni Da yng Nghaernarfon. Ym mhob fideo , gwelwn blentyn yn chwarae gemau consol poblogaidd fel Minecraft a FIFA15. Mae’r prosiect wedi llwyddo i greu 30 sianel YouTube newydd yn yr iaith Gymraeg.