Anfonaf Angel : Côr Rhys Meirion
S4C | 1 x 60munud
I ddathlu deg mlwyddiant ers cyfansoddi ‘Anfonaf Angel’, mae’r tenor Rhys Meirion am roi her iddo’i hun.
I ddathlu deg mlwyddiant ers cyfansoddi ‘Anfonaf Angel’, mae’r tenor Rhys Meirion am greu trefniant newydd o’r gan a chreu côr arbennig o bobl o bob cwr o Gymru sydd wedi bod â’r angen am ‘angel’ eu hunain ar un adeg.
Dros bedair wythnos, mae Rhys Meirion yn cwrdd ac yn clywed straeon arbennig pobl amrywiol – o Sir Fôn lawr i Ferthyr Tudful ac yn cynnal ymarferion ar gyfer creu un côr arbennig i ganu fersiwn newydd o gân enwog Robart Arwyn a Hywel Gwynfryn – ‘Anfonaf Angel’ a gyfansoddwyd yn 2008.
Mae angen help ambell ffrind ar y ffordd felly daw Mari Pritchard, arweinyddes Côr Ieuenctid Môn a Huw Foulkes, arweinydd Côr Dydd yn rhan o’r tîm ac mae Osian Williams a’i chwaer Branwen o fand ‘Candelas’ yn cytuno i greu trefniant newydd sbon o’r gân yn arbennig ar gyfer y rhaglen.
Diwedd y profiad? Cael mynd i stiwdio recordio ‘Sain’ yn Llandwrog i recordio eu lleisiau ar recordiad arbennig o drefniant newydd o’r gân ‘Anfonaf Angel’