Ar Frig Y Don
S4C | 1 x 60munud
Yn 2011 fe gollodd Llywelyn Williams ei goes yn dilyn damwain drychinebus. Dilynwn Llywelyn wrth iddo baratoi fel yr athletwr cyntaf o Gymru i gystadlu ym Mhencampwriaeth Syrffio Ymaddasol y Byd yn San Diego.
Yn 2011 fe gollodd Llywelyn Williams ei goes yn dilyn damwain drychinebus tra’n sglefrfyrddio. Yn ystod y rhaglen mae teulu a ffrindiau Llywelyn yn ail fyw’r diwrnod dyngedfenol honno ac yn rhoi cipolwg inni o’i ewyllys haearnaidd a phenderfynol i ddychwelyd i’w gariad angerddol, y môr a syrffio. Byddwn yn dilyn Llywelyn wrth iddo baratoi fel yr athletwr cyntaf o Gymru i gystadlu ym Mhencampwriaeth Syrffio Ymaddasol y Byd yn La Jolla, San Diego. A fydd yn cyrraedd brig y don yma a beth fydd dyfodol y gŵr ifanc ysbrydoledig yma a’i deulu?