Ar Y Dibyn

S4C | 6 x 30munud

Un swydd fel arweinydd antur awyr agored, wyth ymgeisydd yn dyheu i newid eu bywydau!

Cyfres antur awyr agored yn ngofal y ddau anturieithwr Lowri Morgan a Dilwyn Sanderson-Jones. Bydd wyth ymgeisydd yn wynebu cyfweliad chwe wythnos o hyd ac yn cael eu gwthio i’r eithaf yn gorfforol ac yn feddyliol er mwyn canfod pwy sy’n haeddu ennill y brif wobr, sef swydd am flwyddyn fel arweinydd awyr agored yn ogystal ag alldaith fythgofiadwy i gopa mynydd uchaf gogledd Affrica.

Yn ystod y gyfres bydd yr ymgeiswyr yn gorfod profi eu hunain mewn amrywiaeth eang o weithgareddau awyr agored – o hwylio a chanŵio i ddringo, beicio mynydd a llawer mwy. Ond mi fydd eu personoliaethau a’u sgiliau arwain hefyd yn hawlio sylw’r beirniaid, yr arweinydd antur Dilwyn Sanderson-Jones a’r gyflwynwraig ac anturiaethwr, Lowri Morgan.

Mae Eryri’n cael ei hystyried ymhlith y llefydd gorau yn y byd i fwynhau yn yr awyr agored, ac mae’n lleoliad perffaith ar gyfer cyfres fel hon.

Bydd yr ennillydd yn cael cynnig swydd blwyddyn o hyd fel arweinydd awyr agored yn naill ai Canolfan Plas Menai neu yng Ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn. Yn ystod y flwyddyn mi fydd ein henillydd hefyd yn derbyn hyfforddiant llawn ym mha bynnag feysydd awyr agored maent yn dymuno arbenigo ynddynt.

Yn ogystal mae Cwmni Da wedi gweithio gyda chwmni Charity Challenge er mwyn cynnig taith fythgofiadwy i’r enillydd i begwn mynydd uchaf gogledd Affrica.