Aur y Noson Lawen
S4C | 7 x 60munud
Cyfres clipiau hwyliog gyda Ifan Jones Evans yn twrio trwy archif un o raglenni teledu mwyaf eiconig a bytholwyrdd Cymru.
Ers 1982 mae Noson Lawen wedi’n diddanu gydag amryw eang o dalentau arbennig Cymru, a sicrhau lle yng nghalonnau’r genedl. Dyma olwg ffraeth a hwyliog dros gyfresi’r gorffennol a chyfle i adnabod hen wynebau, rhyfeddu ar siediau llawn o dalentau Cymru a gweld man cychwyn sawl un o sêr mwyaf y genedl.