Bad Achub Porthdinllaen
S4C | 6 x 30munud
Mae traethau Pen Llŷn ymysg rhai o’r traethau hyfrytaf yn y byd, ond pwy sy’n cadw llygaid ar y rhai sy’n mentro i’r môr?
Cyfres fu’n dilyn blwyddyn yn hanes Bad Achub Porthdinllaen; ffarwelio â’r hen gwch a chroesawu un newydd cyfoes, cyfarfod cymeriadau lliwgar y criw a phrofi cynnwrf galwad frys a gwibio allan o’r bae.
“Mae bad achub Porthdinllaen yn rhan fawr o’r gymuned a’r gymdeithas; mae’n rhan o hanes y cylch,” meddai Mali Parry-Jones o Forfa Nefyn, aelod o’r bad achub sy’n ymddangos ar y gyfres ac sydd hefyd yn gyfrifol am gynhyrchu a chyfarwyddo’r gyfres.
“Roedd fy niweddar daid yn dod o Bwllheli yn wreiddiol ac roedd o’n gapten llong gyda’r llynges fasnachol, ac a minnau wedi fy magu ym Morfa ac wedi hen arfer clywed ergydion y bad achub wrth iddi gychwyn allan ar alwad, wel, mae’r heli yn fy ngwaed i erioed.”
A chafodd Mali gyfle i ddod yn fwy cyfarwydd â thonnau’r penrhyn wrth iddi dderbyn cynnig i fynd allan ar ymarfer gyda’r criw sydd â’i aelodau i gyd yn Gymry Cymraeg.