• Becws

Becws

S4C | 6 x 30munud

Cyfres goginio yng nghwmni Beca Lyne-Pirkis

Mae Beca Lyne-Pirkis wedi ei magu yn y gegin, yng nghwmni aelodau ei theulu. Gyda nhw fe ddysgodd sut i bobi, crasu, a chreu danteithion – o fara i gacennau bach melys, a phrydau maethlon a swmpus i’r teulu fwynhau gyda’i gilydd.

Yn ei chyfres deledu mae Beca yn dangos y triciau a’r sgiliau wrth rannu ryseitiau bendigedig melys a sawrus sy’n siŵr o’ch temtio chi i roi cynnig arni hefyd.