Blodau
S4C
Llwyddwyd i greu naws gyfandirol i’r gyfres ddrama hon a ffilmiwyd yn bennaf yn nhref glan y môr Llandudno.
Mae’r prif gymeriad Lili, sy’n berson creadigol a breuddwydiol, yn penderfynu cau’r siop llysiau a ffrwythau a fu’n cael ei rhedeg gan ei thad gan agor siop flodau yn ei lle. Mae’n rhaid iddi ddelio â phroblemau busnes a phroblemau carwriaethol wrth i driongl cariad ddiddorol gael ei chreu rhyngddi hi a’i ffrindiau Cat a Paul.
Mi roedd rhan Lili yn cael ei chwarae gan Rhian Blythe a enillodd y wobr am yr actores orau yng Ngŵyl Fringe Caeredin am ei rhan yn y ddrama ddirdynnol, Deep Cut. Un her a osododd y gyfres hon i’r tîm technegol oedd cadw’r holl flodau yn ffres yn ystod y ffilmio. Yn hyn o beth, roedd profiad ymgynghorydd blodau’r gyfres, Sioned Edwards, yn amhrisiadwy.