Bwyd Epic Chris

S4C | 6 x 30munud

Dileit mwya’ Chris Roberts ydy Caernarfon, Roxy’r Ci a chreu bwyd epic!

Yn y gyfres gyntaf, aeth Chris i ffendio cynnyrch lleol anhygoel a chreu prydau bwyd cŵl i deulu, ffrindiau a Cofis lliwgar – gan gynnwys coginio oistyrs y Fenai i ‘foody’ mwya’r dre, Dyl Mei; creu Paella epic ‘Cofi-style’ i griw o ffrindiau sy’n barod iawn i ddeud eu deud a chreu Kebab Gafr anferth i gwsmeriaid siop Kebabs yn dre… Ond mae Chris yn barod am fwy!