Byd Mawr y Dyn Bach

S4C | 1 x 60munud

Person bach gyda phersonoliaeth enfawr ydi James Lusted, ac mae o wedi cyflawni sawl camp anhygoel, er gwaetha’r ffaith mai dim ond 3 troedfedd 7 modfedd o daldra ydi o.

Aeth James ar daith bersonol er mwyn canfod o ble y daw ei nerth, a’i benderfyniad, gan glywed ganddo fo a’i deulu sut y bu iddo oresgyn pob her a ddaeth i’w ran yn sgil ei gyflwr meddygol. Ond roed yn wynebu her arbennig iawn yn ystod y rhaglen. Gwelsom James yn paratoi ar gyfer ei ran fawr fel corach ym Mhanto ‘Eira Wen’. Dyma oedd gwireddu breuddwyd oes – a gwneud yn fawr o’i daldra!