Byw Yn Ôl Y Papur Newydd

S4C | 6 x 30munud

Tudur Owen a Bethan Gwanas sy’n camu yn ôl i gyfnod y dauddegau, gyda phapurau newydd Cymraeg y dydd yn gwmni.

Y dauddegau – cyfnod o begynnau eithafol. Ar yr un llaw, tlodi enbyd, streicio a diweithdra, ac ar y llaw arall, datblygiadau technolegol a pheirianyddol rhyfeddol, oedd i drawsnewid ein cymdeithas am byth. Tudur Owen a Bethan Gwanas sy’n camu yn ôl i’r cyfnod hwn yn ein hanes, gyda phapurau newydd Cymraeg y dydd yn gwmni.