Canrif o’r Babell Lên

S4C | 1 x 60munud

Ers ei sefydlu yn Eisteddfod Barri yn 1920, mae’r Babell Lên wedi dod yn un o brif atyniadau’r Eisteddfod Genedlaethol.

Yn y rhaglen ddogfen hon bu’r Bardd Cenedlaethol Ifor ap Glyn yn twrio i hanes lliwgar y Babell Lên, gan holi 15 o gyfrannwyr am eu hatgofion a thyrchu sawl perl annisgwyl allan o’r archifau. O hanes pyjamas Waldo i berfformiad arloesol y Blew, ac o hiwmor Harri Gwynn i’r ‘prawf cyffuriau’ yn Ymryson y Beirdd, bydd sawl hanesyn i godi gwên atgofus.