Cegin Cofi
S4C | 6 x 30munud
Dan arweiniad Kenny Khan, mae criw o hogiau di-waith o stad Ysgubor Goch, Caernarfon yn cychwyn cegin gymunedol.
Dan arweiniad Kenny Khan, sydd yn gwneud gwaith gwirfoddol ar y stad, mi fydd ei fan fwyd yn gwerthu bwyd iach am brisiau rhad i bawb sydd ei angen. Bydd y rhaglen yn dilyn hynt a helynt y fan fwyd a hanes yr hogiau, wrth iddyn nhw drio lawnsio’r fenter newydd.
Ond a fydd yna ormod o gogyddion yn y gegin?
Mae pethau’n siwr o boethi yn ‘Cegin Cofi’…!