Chwaraeon Y Dyn Bach
S4C | 4 x 30munud
Mae James Lusted wrth ei fodd gyda chwaraeon, ac yn ystod y gyfres bydd yn cyfarfod hefo pobol eraill sy’n profi nad yw anableddau yn rhwystr rhag cymryd rhan – a rhagori.
Yn y rhaglen gyntaf, bydd yn sgwrsio gyda’r seren Paralympaidd Aled Sion Davies, yn clywed sut mae Gerwyn Owen a Chwaraeon Anabledd Cymru yn datblygu talent, ac yn chwarae pel-droed hefo Josh Law o Glwb Pel-droed Caerdydd. Ac wrth iddi gystadlu yn Gemau Ysgolion Prydain, cawn glywed sut mae Fran Smith o Gaernarfon wedi goresgyn ei chyflwr, i ddod yn un o chwaraewyr tennis cadair-olwyn mwyaf addawol Prydain.