Codi Wal Berlin
S4C | 1 x 60munud | Sky Vision / Cwmni Da
Dyma gofnodi a dramateiddio’r union ddigwyddiadau a newidiodd holl hanes Ewrop.
Drwy ail greu dramatig, dehongli arbenigwyr ac adroddiadau gan lygad-dystion dyma ddod â’r holl bennod anhygoel yn fyw. Dyma ddangos sut y codwyd y llen haearn a arhosodd yn symbol o’r rhyfel oer am ddegawdau. Marion Löffler o brifysgol Aberystwyth fu’n egluro a dehongli, yn ogystal â chyfweliadau arbennig gan Adam Kellet-Long, y newyddiadurwr gorllewinol cyntaf i glywed am y wal ag yntau yn Nwyrain Berlin ar y pryd.
Codi Wal Berlin – un digwyddiad wnaeth rannu dinas – a’r byd – am flynyddoedd. Sut codwyd y wal? Gan bwy, ac i beth? Sut codwyd hi mor sydyn? Dros nos!