Corau Rhys Meirion
S4C | 4 x 60munud
Rhys Meirion sydd ar daith i ddarganfod sut all canu corawl gyfoethogi ein bywydau ni mewn gwahanol ffyrdd.
Everton, Lerpwl; ManU, Man City; Rangers, Celtic – dyma’r darbis pêl-droed mwyaf cystadleuol yn y byd, sy’n enwog am rwygo dinasoedd, cymunedau a hyd yn oed teuluoedd ar adegau. Ond does ‘na run gêm sy’n debyg i’r ddarbi leol rhwng Llanrug a Llanbêr yn ardal Caernarfon.
Er mai dim ond 4 milltir sydd rhwng y ddau bentref, mae degawdau o hanes yn hollti’r ddwy gymuned. Ond mae’r canwr Rhys Meirion am wynebu’r her o uno’r ddau dîm am y tro cyntaf erioed. Yn y bennod gyntaf o’r gyfres newydd o Corau Rhys Meirion, mi fydd Rhys yn gobeithio dod â’r ddau dîm pêl-droed, CPD Llanrug a CPD Llanberis, at ei gilydd i ffurfio côr newydd sbon.
“Mae ‘na gythraul chwarae wedi hollti’r ddwy gymuned yma ers canrifa mwy. Er mai tipyn o hwyl a thynnu coes ydi’r gystadleuaeth yn y bôn… mae ennill y gêm yn bwysig iawn i’r ddwy ochr!” meddai Rhys Meirion
O dan arweinyddiaeth Cefin Roberts, bydd y côr yn perfformio cân sydd wedi cael ei chyfansoddi yn arbennig gan y canwr a’r cyfansoddwr, Ifan Pritchard, sy’n adnabyddus fel canwr y grŵp pop, Gwilym. Bydd rhaid i’r ddau dîm lunio chants arbennig i’w hadrodd yn y gân.
“Heb ddatgelu gormod am y chants, allai ddweud bod digon o dynnu coes a dychan ynddyn nhw… ‘stwffio nhw a Hogiau’r Wyddfa’ yn un llinell sy’n aros yn y cof!” ychwanegodd Rhys.
“Er bod y timau yn herio’i gilydd, mae nhw mor debyg ar yr un pryd! Mae’r côr pêl-droedyn ddathliad o’r pentrefi a phobl y gymuned sy’n gweithio mor galed i gefnogi’r timau.Mae ‘na gymuned yn perthyn i bob tîm pêl-droed, yn union fel y gymuned sydd o fewn côr.
“Ond be’ oedd yn rhyfeddol wrth ddod i ‘nabod y timau ydi pa mor berthnasol ydi C’mon Midffild hyd heddiw! Ti’n gallu nabod y cymeriadau yn syth. Roedd gan pob tîm eu Mr Picton, Sandra…ond na i ddim mentro dweud pwy ydi’r Walis!”
Hefyd yn gyfres bedair rhan, mi fydd Rhys yn ffurfio côr yn y gogledd o ferched sydd wedi cael eu cyffwrdd gan Gancr y Fron mewn rhaglen emosiynol. Yna, côr o ddysgwyr Cymraeg yn ardal Sir Benfro, a chôr o Wirfoddolwyr y Gwasanaethau Brys ym Mhen Llŷn.
“Mae’r gyfres hon o Corau yn clymu llond lle o emosiynau. Mae ‘na chwerthin a dagrau, ac mae’r canu yn dod o’r enaid bob tro. Un peth sy’n gyffredin rhwng pob un o’r corau – mae’r holl aelodau yn gwenu syth ar ôl gorffen canu. Be ‘da ni’n trio profi ydi bod canu mewn côr yn llesol, ac mae’r ymateb ‘da ni’n gael yn y gyfres hon yn profi hynny.
“Ond mae rhaid gofyn, a fydd ‘na gôr o gefnogwyr Man U a Man City yn cael ei ffurfio yn y gyfres nesa’?!”
“Wel, fel cefnogwr Man U, faswn i braidd yn bias os fyswn ni’n gwneud hynny! Roedd hi’n haws cadw’r ddysgl yn wastad rhwng Llanrug a Llanbêr! Ond mae syniadau ar y gweill am y corau y byddwn ni’n eu ffurfio ar gyfer y gyfres nesa’.”