Cwffio Cawell
S4C | 3 x 30munud
Mae ymladd cawell yn un o’r chwaraeon sydd yn tyfu gyflymaf drwy’r Byd, ac sy’n mynd yn fwy a mwy poblogaidd o fewn y byd chwaraeon cyswllt.
Mae’r gyfres ‘Cwffio Cawell’ yn datgelu mai rhagdybiaeth llwyr ydi meddwl mai dim ond unigolion anghyfrifol ac amhroffesiynol sy’n ymladd – ond nid dyna yw’r achos.
Mae Robin yn un o sêr ymladd cawell Gogledd Cymru. Nid yn unig mae Robin Humphreys yn bencampwr Prydeinig mewn bocsio cic, mae hefyd yn berchen ar felt rhyngwladol. Hefyd ers cychwyn ffilmio’r gyfres, mae Robin wedi cychwyn ar hyfforddiant i fod yn heddwas. Mae wedi bod yn hyfforddwr bocsio cic, carati a ‘Jiu Jitsu’ mewn canolfan crefftau ymladd – ‘Academi Chris Pritchard’ yng Nghaernarfon, sydd yn academi chwaraeon cyswllt gyda dros 200 o aelodau.
Un arall o hyfforddwyr rhan amser yr Academi honno ydi Leah Thomas, sy’n weinyddes mewn tŷ bwyta yn Y Felinheli pan nad yw’n cymryd gwersi. Ar ôl dechrau astudio carati ers yn 9 oed, mae Leah wedi datblygu i fod yn ymladdwraig cawell. Mae Leah wedi cael dwy ‘ffeit’ yn ‘Brwydr y Bae’, digwyddiad mwyaf ymladd cawell Gogledd Cymru, ac wedi curo y ddwy!
Dim ond ers blwyddyn y mae Emma Barton wedi cychwyn cwffio cawell ac mae’ gyfres yn ei dilyn yn cael ei brwydr gyntaf yn y gawell. Yn y dydd, mae hi’n gymhorthydd dosbarth mewn ysgol gynradd, ond gyda’r nos mae hi’n brysur yn yr Academi yng Nghaernarfon yn hyfforddi. Bocsio cic yw ei phrif ddiddordeb ac mae wedi ymddiddori mewn ymladd cawell er mwyn cadw’n heini.