Cymru : Dal i Gredu?
S4C | 3 x 30munud
Gwion Hallam sy’n mynd ar daith i weld a yw pobl Cymru yn dal i gredu mewn Duw.
Roedd Gwion, sydd yn wreiddiol o Rydaman ond erbyn hyn yn byw yn y Felinheli, wedi ei fagu yn y capel ac yn arfer bod yn Gristion i’r carn. Erbyn hyn mae wedi colli ei ffydd; ac yn y gyfres hon bydd yn ceisio darganfod pam fod y niferoedd sy’n mynychu’r capel ac eglwys yng Nghymru wedi gostwng i’r fath raddau. Ydi pobol Cymru wedi troi cefn ar ffydd hefyd?
“Ddechrau’r ganrif yma, roedd tri chwarter y Cymry yn dal i ddweud eu bod nhw’n Gristnogion“ meddai Gwion. “Ond yn ôl y cyfrifiad diwethaf, mae mwy ohonom ni yn troi ein cefn ar Gristnogaeth nag mewn unrhyw wlad arall ym Mhrydain. Os nad Cristnogaeth sy’n hawlio ein calon ni bellach, beth wir ydyn ni’r Cymry yn ei gredu?“
Bydd Gwion yn ymweld â’i hen ysgol uwchradd Ysgol Maes y Gwendraeth yng Nghefneithin i ofyn i’r disgyblion am eu credoau nhw. Yn y rhaglen hefyd gwelwn Gwion yn teithio i Gaerdydd i ymweld ag eglwys efengylaidd ei frawd ac i drafod pam fod crefydd mor bwysig iddo fo ac yntau wedi colli ei ffydd.
Yn ogystal â Christnogaeth, yn ystod y gyfres bydd Gwion yn edrych ar sawl crefydd arall sydd wedi ymwreiddio yng Nghymru. Bydd yn ymweld â theml Sikh, a synagog Iddewig, ac yn y rhaglen gyntaf bydd yn ymuno â 500 o ddynion ar ganol eu gweddïau mewn mosg yng Nghaerdydd.
Mae nifer y Moslemiaid yng Nghymru wedi dyblu ers 2001 a bydd Gwion yn cyfarfod â dwy Foslem ifanc Cymraeg eu hiaith, sef Sara Yassine ac Arooj Kahn, i glywed mwy.
Daeth Gwion ar eu traws mewn swper i bobl o sawl ffydd a drefnwyd gan Gyngor Mwslimaidd Cymru yn Neuadd y Ddinas Caerdydd.
“Mewn cyfnod o densiynau amlwg, dyma grefyddau’n gwlad wedi dod at ei gilydd am swper o gwmpas y bwrdd – i rannu bwyd ac i rannu profiadau,“ meddai Gwion. “Gobeithio y gall y gyfres hon hefyd ddadlennu ychydig am sut mae gwahanol garfannau yng Nghymru yn dal i gredu yn eu duw – a sut mae’r berthynas yna yn newid.”