Cyngerdd Awyr Las Rhys Meirion
S4C | 1 x 90munud
Mewn noson fawreddog o Theatr Pafiliwn y Rhyl bydd y tenor rhyngwladol Rhys Meirion yn rhannu llwyfan â rhai o berfformwyr gorau Cymru i gefnogi Cronfa Elen ac elusen Wrth Dy Ymyl.
Dan arweiniad dihafal y comedïwyr Tudur Owen a Dilwyn Morgan cawn wledd o ganu yng nghwmni Shân Cothi, Rebecca Evans, Bryn Fôn, Eden, Trio, Jade Davies, Erin Meirion, Côr Trelawnyd, Cantorion Gogledd Cymru a Chôr Ieuenctid Sir Ddinbych.
Bydd y noson yn cefnogi dwy elusen sy’n agos iawn at galon Rhys. Mae Cronfa Elen yn elusen sy’n gwneud gwaith arbennig i godi ymwybyddiaeth pobl Cymru o’r angen i drafod rhoi organau a thrawsblannu a sefydlwyd y gronfa gan deulu Rhys er cof am ei chwaer, Elen, athrawes a cherddor poblogaidd a fu farw trwy ddamwain yn 2012.
Sefydlwyd Cronfa Wrth Dy Ochr, gan Mike Peters, prif leisydd y grŵp roc Yr Alarm. Mae’n elusen sy’n cynnig cefnogaeth amhrisiadwy i bobl Gogledd Cymru sy’n dioddef â chanser, afiechyd mae Mike ei hun yn ei adnabod yn rhy dda gan iddo oroesi’r afiechyd ddwywaith.