Cysgod Rhyfel

S4C | 1 x 60munud

Cofnod ingol o effeithiau seicolegol rhyfel ar bedwar cyn-filwr wrth iddynt drafod eu profiadau yn rhyfeloedd Gogledd Iwerddon, y Falklands, Irac ag Affganistan.

Ar ôl brwydro yng Ngogledd Iwerddon, rhyfel y Falklands, Irac ac Affganistan, mae pedwar cyn-filwr yn trafod eu profiadau ar faes y gad gan ddatgelu’r effeithiau seicolegol ag emosiynol y mae’r profiad o ryfel wedi ei ddwyn ar eu bywydau. Mewn rhaglen treiddgar a grymus cawn gipolwg ar wir oblygiadau rhyfel i’r unigolion hyn a sut mae ymdopi ac ail-gydio mewn bywyd o’r newydd ar ôl dychwelyd adref.