Dafydd Iwan
S4C | 1 x 60munud
Ffilm-ddogfen ddadlennol am y perfformiwr, y gwleidydd a’r pregethwr Dafydd Iwan
Bu Dafydd Iwan yn cenhadu a diddannu cynulleidfaoedd ers hanner canrif a mwy a bu’n amlwg iawn ar deledu ac ar lwyfan. Mae’r ffilm hon yn tynnu cwr y llen ar y ffigwr cyhoeddus, gan ddatgelu rhai o’i emosiynau dyfnaf. Wrth ei ddilyn o gyngerdd i gyngerdd, o westy i bregeth, ac wrth dreulio amser yn ei gartref, dyma bortread gonest ac agos-atoch o ddyn sydd wedi dewis byw yn llygad y cyhoedd. Beth yn union sy’n eu yrru ymlaen? A phwy fyddai o heb ei gynulleidfa?