Dan Bach a KISS
S4C | 1 x 60munud
Rhaglen ddogfen yn dilyn un o ffans mwyaf gwallgof y band KISS yn gwireddu ei freuddwyd oes o gael gweld nhw’n chware yn Siapan.
Mae Dan “Bach” Griffiths wedi bod mewn cariad gyda KISS ers gweld nhw ar Top of the Pops yn 1979. Mae Dan wedi gweld nhw’n chware dros y byd a dim ond un lle sydd ar ôl ar ei restr: Neuadd Budokan yn Tokyo.
Gwyliwch daith Dan o Aberystwyth i Siapan a’i gonestrwydd am wir effaith KISS ar ei fywyd â’r aberthau mae ef wedi neud yn enw roc a rôl.