Darn Bach o Hanes

S4C | 20 x 30munud

Golwg ar hanes Cymru trwy leoliadau, creiriau a straeon difyr a dadlennol.

Lleoliadau. Creiriau. Pobol.

Dyma dair ‘angor’ y gyfres Darn Bach o Hanes, a thrwyddyn’ nhw, cawn olwg ar straeon difyr a dadlennol fydd yn taflu goleuni ar hanes cyfoethog ein gwlad.

Mae Dewi yn ein harwain i bob cwr o Gymru ar hynt straeon diddorol tu ôl i wahanol drysorau a lleoedd.

Ynghyd â Dewi, mae Rhodri Llwyd Morgan, cyn ganwr gyda’r grŵp Cerrig Melys, y cyflwynydd Lisa Gwilym, y colofnydd a’r rheolwr cerddoriaeth Rhys Mwyn a’r hanesydd ifanc o Gonwy, Gwenan Schiavone yn gohebu hefyd.

Bob wythnos mae hanesydd lleol gwahanol yn cyflwyno lle neu eitem werthfawr sydd o ddiddordeb personol iddyn nhw.

“Ar draws y byd, mae Cymru yn enwog am ei hanes. O chwareli llechi i fryngaerau oes yr haearn, mae stamp a stori cenedlaethau ohonom ni’r Cymry arnyn nhw,” meddai Dewi Prysor.