Defaid a Dringo

S4C | 1 x 60munud

Ffilm ddogfen sy’n dilyn blwyddyn ym mywyd y dringwr ifanc o Fethesda, Ioan Doyle.

Mae’r ffilm ddogfen Defaid a Dringo yn dilyn Ioan Doyle yn ystod blwyddyn o’i fywyd – sy’n cynnwys ei ymdrechion i barhau â’i yrfa ddringo a’i frwydr i sefydlu ei fusnes ei hun gyda’i gariad, Helen.

Rydym wedi arfer gweld y bugail, Ioan Doyle yn dringo mynyddoedd; ond mae hefyd yn dringo i’r brig mewn sawl gŵyl ffilm.

Mae’r ffilm ddogfen wedi ennill gwobr am y ffilm ddringo orau yng Ngŵyliau Ffilm Mendi, Bilbao, Sbaen.

Yn ogystal ac ennill gwobrau mewn gŵyliau antur, dringo a mynydda mewn gwyliau ffilm yn Slofacia, Y Weriniaeth Tsiec, Canada, Awstria, Cumbria, Ffrainc, Sbaen, Swistir, Yr Alban.